75 yn gwrthdystio yn erbyn Brexit

Image caption Yr ymgyrchwyr yn cwrdd yng nghanol Caerdydd

Mae ymgyrchwyr sydd yn gwrthwynebu Brexit wedi cwrdd yng nghanol y brifddinas er mwyn lleisio eu barn ynglŷn â dyfodol Prydain yn Ewrop.

Roedd y protestwyr yn ymateb i'r refferendwm ym mis Mehefin pan bleidleisiodd mwyafrif o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bu ymgyrchwyr yn ymgynnull mewn dinasoedd eraill hefyd gan gynnwys Caeredin a Llundain.

Dywedodd Geraint Talfan Davies, o ymgyrch Cymru Gryfach yn Ewrop: "Mewn unrhyw gyfundrefn ddemocrataidd mae modd herio unrhyw benderfyniad, felly mae'n iawn fod pobl yn parhau i ddadlau'r achos dros bartneriaeth Prydain yn Ewrop."

Mewn ymateb fe ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Yn y refferendwm ym mis Mehefin fe bleidleisiodd pobl i newid ein perthynas â Ewrop.

"Mae angen i ni gyd uno nawr, a gafael yn y cyfleodd sydd o'n blaenau, yn hytrach nag ymladd ymgyrch y refferendwm eto."