Ailagor ffordd yng Nghaerdydd wedi i fan bost daro siop

Heol Penarth Image copyright Misia Kuczys

Mae prif ffordd yng Nghaerdydd wedi ailagor ar ôl i fan y Post Brenhinol fod mewn gwrthdrawiad â cherbyd heddlu yn oriau man bore Llun.

Bu Heol Penarth yn ardal Grangetown ar gau rhwng Heol Corporation a Heol Clare am chwe awr.

Dywedodd yr heddlu y bu'r fan a'r cerbyd heddlu mewn gwrthdrawiad, ac o ganlyniad i hyn fe wnaeth y fan daro'r adeilad.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc wedi 03:30.

Fe gafodd y ddau berson oedd yn y cerbyd heddlu eu cymryd i Ysbyty Athrofaol Cymru ond dydyn nhw ddim mewn cyflwr difrifol.