Mae'r Gymraeg yn gyffur

Ers Medi 2015, mae swydd wedi bodoli yn Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Caerdydd i ddatblygu addysg cyfrwng Gymraeg yno, ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae un o'r darlithwyr, Wyn Davies, yn fferyllydd ysbyty a chymunedol, ac hefyd yn aelod o'r grŵp Only Men Aloud. Cafodd sgwrs â Cymru Fyw, ynglŷn â beth sy'n cael ei gynnig yn y Brifysgol, a phwysigrwydd ceisio sicrhau fod fferylliaeth a'r Gymraeg yn cydfyw mewn harmoni:


Image copyright Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cafodd y swydd ei chreu er mwyn datblygu darpariaeth y Gymraeg o fewn yr adran yn ffurfiol, canolbwyntio ar ddatblygu hyder y myfyrwyr fferylliaeth wrth gyfathrebu yn Gymraeg, a hynny er lles y cleifion.

Os yw fferyllydd yn gallu cyfathrebu â rhywun yn ei ddewis-iaith, mae'r broses o ymgynghori a chynghori'r claf yn llawer mwy llwyddiannus. Ac er bod rhywun yn gallu siarad Cymraeg yn gymdeithasol, dydy hynny ddim yn golygu eu bod yn gyfforddus neu'n hyderus i'w defnyddio'n broffesiynol.

Mae'r cyrsiau rydyn ni'n eu cynnig yn rhoi cyfleon i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau claf-wynebol yn Gymraeg. Bydd yr elfen Gymraeg o'u hyfforddiant yn bytiau fan hyn a fan draw drwy gydol pedair blynedd y cwrs. Rydyn ni'n canolbwyntio ar y pethau clinigol hynny bydd fferyllydd yn ei wneud o ddydd i ddydd wrth ddelio â'r cyhoedd.

Felly, os fyddech chi'n mynd i fferyllfa gyda presgripsiwn, byddai'r fferyllydd yn gallu eich cynghori sut i ddefnyddio'r cyffur yna'n iawn, neu os fyddai claf yn dod i fferyllfa gyda salwch, byddai'r fferyllydd yn gallu mynd drwy'r broses o'u cwestiynu yn iawn er mwyn cyrraedd y nod.

Cyfieithu popeth?

Wrth gwrs, nid ein gobaith yw i gyfieithu pob cyffur neu salwch i'r Gymraeg - termau ac enwau Lladin yw nifer ohonyn nhw beth bynnag - na chwaith defnyddio Cymraeg cymhleth a blodeuog. Faint ohonon ni sy'n defnyddio Cymraeg safonol, hollol gywir pob amser yn gymdeithasol, beth bynnag?

Does dim pwrpas datblygu iaith gymhleth ychwanegol - mae trafod meddyginiaethau ddigon cymhleth fel mae hi. Ac mae hefyd peryg i wneud i'r claf deimlo hyd yn oed yn fwy anghyfforddus. Felly deall y claf sy'n bwysig, a'u gwneud i deimlo'n gyfforddus, fel eu bod yn medru rhannu eu problemau nhw, fel ein bod ni'n gallu eu helpu. Mae angen Cymraeg dealladwy, sy'n llifo'n rhwydd.

Codi ymwybyddiaeth

Beth rydyn ni hefyd yn trio'i wneud, nid yn unig targedu'r rhai sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl, ond hefyd i godi ymwybyddiaeth o'r Gymraeg i fyfyrwyr sy'n dod yma o du allan i Gymru sydd efallai ddim yn gwybod ei bod hi'n bodoli ac yn cael ei defnyddio o ddydd i ddydd.

Mae'r ymwybyddiaeth yr un mor bwysig oherwydd hyd yn oed os mai dim ond ychydig o Gymraeg gall fferyllydd ei siarad, mae'n ddigon i greu'r berthynas honno â chlaf, sydd yn hollbwysig yn y sector iechyd drwyddi draw.

Mae hi'n her, gan nad oes dim fel hyn wedi cael ei gynnig o'r blaen - doedd dim sôn o gwbl am y defnydd o'r Gymraeg yn yr hyfforddiant dderbyniais i pan o'n i'n fyfyriwr.

Ond mae hi'n wych bod yr Ysgol Fferylliaeth yn gallu cydweithio gyda'r Ysgol Nyrsio a'r Ysgol Feddygol - er ein bod ni'n bynciau 'gwahanol' mewn ffordd, mae'r un fath o heriau yn ein hwynebu, o ran y defnydd o'r Gymraeg, felly gallwn ni rannu profiadau a goresgyn problemau.

Cynllun pum mlynedd

Rydyn ni ar fin dechrau ein hail flwyddyn o bum mlynedd o arian gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ein gobaith yw y bydd darpariaeth Gymraeg wedi ei ffrydio drwy'r holl gwrs erbyn diwedd y bumed blwyddyn.

Y llynedd, roedd sesiynau Cymraeg dewisol ar draws pob blwyddyn, oedd yn llwyddiannus iawn, ac roedd y myfyrwyr yn hynod frwdfrydig. Drwy eu hallbwn nhw, rydyn ni wedi llwyddo i lunio mwy o sesiynau eleni.

Mae'n anodd creu o'r newydd, ond mae hi hefyd yn braf cael llechen lân, gan ein bod ni'n cael cyfle i gasglu'r wybodaeth i gyd ac yna creu rhywbeth sy'n gweddu'r cwrs a'r myfyrwyr.