Pro12: Caeredin 20-9 Scarlets

Michael Allen touches down Edinburgh's first try Image copyright SNS
Image caption Michael Allen sgoriodd gyntaf gan fanteisio ar gic Duncan Weir

Llwyddodd Caeredin i guro'r Scarlets yn y Pro12 yn Murrayfield nos Wener wedi perfformiad sâl gan y tîm o Gymru.

Fe wnaeth Duncan Weir a Rhys Patchell sgorio ciciau cosb cyn i Weir gicio o'i ddwylo heibio Liam Williams i Michael Allen sgorio cais i Gaeredin.

Methodd Patchell a chlirio'r bêl yn ddigon da ac aeth Magnus Bradbury drosodd am yr ail.

Er i Bradbury a Phil Burleigh gael cardiau melyn nid oedd y Scarlets yn gallu manteisio a cholli oedd eu hanes.