Abertawe 2-2 Chelsea

abertawe Image copyright Rex Features

Abertawe 2-2 Chelsea

Fe ildiodd Chelsea eu pwyntiau cyntaf o'u tymor yn Uwch Gynghrair Lloegr, wedi i Abertawe sicrhau gêm gyfartal ddydd Sul.

Fe roddodd Diego Costa'r ymwelwyr ar y blaen cyn yr hanner, wrth iddo fanteisio ar amddiffyn blêr gan Abertawe.

Ond fe roddodd cic o'r smotyn gan Gylfi Sigurdsson a gôl gan Leroy Fer y fantais i'r Elyrch yn yr ail hanner.

Fe sgoriodd Costa ei ail gôl yn hwyr yn yr ail hanner, ac felly'n sicrhau pwynt i dîm Antonio Conte, sy'n parhau yn ail yn y tabl, tra bod Abertawe yn safle 13.