Trafod ailenwi Maes Awyr Caerdydd ar ôl y Dywysoges Diana

maes awyr caerdydd Image copyright Maes Awyr Caerdydd

Mae disgwyl i Aelodau Cynulliad drafod cynnig i ailenwi Maes Awyr Caerdydd ar ôl y Dywysoges Diana.

Byddai enwi'r maes awyr ar ei hôl hi yn denu sylw rhyngwladol ac yn ffordd o'i chofio, yn ôl y cyn-gynghorydd sydd wedi cyflwyno'r ddeiseb.

Dywedodd Mohammed Sarul Islam, sydd yn llywydd ar Gyngor Busnes a Buddsoddi'r Gymanwlad Cymru, y byddai'n ffordd effeithiol o ddenu teithwyr o dramor.

Mae Mr Sarul Islam yn gyn-gynghorydd Plaid Cymru yng Nghaerdydd, ond eleni fe safodd dros UKIP yn etholiadau'r Cynulliad.

Image copyright PA
Image caption Bu farw'r Dywysoges Diana, oedd y briod i'r Tywysog Charles rhwng 1981 ac 1996, mewn damwain car ym Mharis ar 31 Awst 1997.

Bydd Aelodau Cynulliad yn trafod y ddeiseb i enwi'r maes awyr ar ei hôl, sydd wedi denu 16 llofnod, ddydd Mawrth.

Dim ond 10 llofnod sydd ei angen ar ddeiseb er mwyn cael ei drafod gan Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad, yn ôl y rheolau presennol.

Nid dyma'r tro cyntaf i enw newydd gael ei awgrymu ar gyfer Maes Awyr Caerdydd ers i Lywodraeth Cymru ei brynu am £52m yn 2013.

Ymysg y rheiny sydd wedi cael eu cynnig yn y gorffennol mae Robert Owen, un o sylfaenwyr y mudiad cydweithredol, a'r bardd Dylan Thomas.