Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam

Ffordd Newbridge Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Newbridge yn ardal Cefn Mawr

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Wrecsam brynhawn Iau.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 15:00 ar Ffordd Newbridge yn ardal Cefn Mawr rhwng beic modur a char llonydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ac fe gafodd y beiciwr modur ei gludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yn Stoke, ble bu farw'n ddiweddarach.

Bu'r ffordd ar gau am bedair awr yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd y Sarjant Jane Thomas o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn apelio am unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad, neu unrhyw un allai fod wedi gweld y beic modur yn teithio cyn y gwrthdrawiad, i gysylltu â ni."