Caerdydd 0-2 Leeds

cic o'r smotyn Image copyright Empics

Mae Caerdydd wedi cael eu trechu am yr ail waith yr wythnos hon ar ôl i goliau gan Chris Wood a Pablo Hernandez gipio buddugoliaeth i Leeds.

Roedd hi'n ddi-sgôr ar yr egwyl, gyda'r Adar Gleision yn taro'r postyn ddwywaith wrth i'r rheolwr Paul Trollope hepgor pum amddiffynnwr a dewis system 4-3-3.

Ond ar ôl 62 munud fe rwydodd Wood o'r smotyn wedi i Matt Connolly dynnu Pontus Jansson yn y cwrt cosbi.

Cafodd y fantais ei dyblu ar ôl 83 munud gan gyn-asgellwr Abertawe, Pablo Hernandez, wrth iddo daro ergyd wych i gornel uchaf y rhwyd.

Mae'r canlyniad yn cynyddu'r pwysau ar Trollope, gafodd ond ei benodi fel rheolwr gan Gaerdydd dros yr haf, wrth i'r tîm lithro i waelod y Bencampwriaeth.