Treviso 27-11 Dreigiau

Image copyright Rex Features

Treviso 27-11 Dreigiau

Siom arall oedd yn wynebu Dreigiau Gwent yn yr Eidal wrth iddyn nhw golli ei trydedd gêm y tymor yma a hynny yn erbyn Treviso.

Ar ôl cic gosb gan Tomasso Allan fe sgoriodd y canolwr Tommaso Benvenuti gais gyntaf i Treviso i'r tîm cartref.

Ond fe darodd Rynard Landman yn ôl gan roi gobaith i'r ymwelwyr. Dau bwynt oedd rhwng y ddau dîm erbyn yr egwyl.

Yn yr ail hanner er hynny doedd y Dreigiau ddim yn llawer o fygythiad mewn gwirionedd i'r Eidalwyr.

Ac fe seliodd Treviso y fuddugoliaeth gyda cais hwyr gan Fuser i roi sgôr terfynnol o 27 - 11.