Dathlu camp Dic Jones trwy gynnal gŵyl ddiwylliannol

Dic Jones

Mae'n hanner can mlynedd ers i Dic Jones ennill y Gadair yn Eisteddfod Aberafan am ei awdl 'Y Cynhaeaf'. I nodi'r achlysur mae gŵyl ddiwylliannol newydd wedi ei threfnu yn Aberteifi.

Y prifardd Ceri Wyn Jones sydd yn esbonio sut y datblygodd y syniad a beth fuodd dylanwad Dic Jones arno ef.

Mae cynnal gŵyl yn Aberteifi wedi bod yn ddyhead gan nifer ohonom ers blynyddoedd. Mae'r castell a'r cei bellach yn cynnig cartref atyniadol ac mae'r ardal ei hun yn gyfoethog ei thalentau a'i thraddodiadau diwylliannol.

A chan fod eleni'n hanner canmlwyddiant cadeirio Dic yr Hendre yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan, a hynny am ei awdl fawr 'Cynhaeaf', teimlwyd bod cyfle i briodi'r dyhead am ŵyl a'r awydd i ddathlu camp Dic.

A pha adeg o'r flwyddyn yn well i wneud hynny na diwedd mis Medi: holl gnwd yr haf yn glyd dan glo, a chyfle i gael rhyw un hwrê fawr arall cyn i'r gaeaf gau amdanom!

Roedd Dic ei hun yn fachan am sbort, yn dwlu gweld diwylliant a chymdeithasu yn mynd law yn llaw, a hynny oherwydd ei fod e'n fardd cymunedol, yn fardd ei bobol, yn fardd gwlad.

Boed yn y mart, neu mewn practis côr; ar lawr y talwrn neu yng nghwmniaeth y dafarn, roedd e wrth ei fodd â'r ymwneud rhwng pobol: y tynnu coes a'r ffraethineb a'r 'sôn mawr am hanesion mân', chwedl y 'Cynhaeaf'.

Image caption Bydd y Talwrn yn cael ei gynnal yng nghastell Aberteifi nos Iau

Rydw i, fel sawl un arall, wrth gwrs, yn para i weld eisiau Dic yn fawr, gweld eisiau ei athrylith, ond hefyd ei bersonoliaeth.

Rwy'n gweld eisiau peidio â chlywed beth yw ei farn e ar ryw fater neu'i gilydd, boed hynny'n farn am gerdd fuddugol mewn steddfod, neu'n ddadansoddiad o gêm bêl-droed neu rygbi.

A beth bynnag y pwnc, byddai wastad ganddo ryw olwg newydd ar bethau, rhyw weld gwahanol a oedd eto'n swnio fel y synnwyr mwya' cyffredin erioed.

Image caption Bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal yng nghastell Aberteifi

Rwy'n gobeithio y buasai Dic wedi gwerthfawrogi'r ffaith taw gŵyl anffurfiol gymunedol yw hon, nid gŵyl sefydliadol. Unigolion, nid cymdeithasau neu gyrff swyddogol, sydd wedi bod wrthi'n rhaglennu a threfnu'r digwyddiadau.

Croesawyd syniadau newydd a dulliau gwahanol, ac mae'r holl beth wedi tyfu mewn ffordd ddigon organig, diolch i gyfraniadau, gweledigaeth a chefnogaeth y sawl a ddeuai â'u cynigion gerbron.

Ac rwy'n credu y buasai Dic wrth ei fodd gyda'r syniad bod Cymry Cymraeg y dre a'r cyffiniau yn meddiannu castell Aberteifi am bedwar diwrnod, a hynny yn enw'r pethau hynny oedd mor annwyl ganddo fe.