Caerdydd wedi cynnal ymchwiliad i Sam Allardyce yn 2014

Sam Allardyce Image copyright AP
Image caption Roedd Sam Allardyce yn rheolwr ar dîm cenedlaethol Lloegr am 67 diwrnod yn unig

Fe wnaeth Clwb Pêl-droed Caerdydd gynnal ymchwiliad i drosglwyddiad gyda West Ham United pan oedd Sam Allardyce yn reolwr yno, yn ôl y Daily Telegraph.

Fe wnaeth Allardyce adael ei rôl fel rheolwr tîm cenedlaethol Lloegr ddydd Mawrth yn dilyn honiadau gan y papur newydd ei fod wedi cynnig cyngor ar sut i osgoi rheolau ar drosglwyddo chwaraewyr.

Mae'r Telegraph hefyd yn honni bod deg o reolwyr neu gyn-reolwyr yn Uwch Gynghrair Lloegr a'r Bencampwriaeth wedi derbyn llwgrwobron am drosglwyddo chwaraewyr, ond dyw'r papur ddim wedi eu henwi.

Daw gwybodaeth y Telegraph gan Pino Pagliara - asiant gafodd ei wahardd am bum mlynedd am drefnu canlyniadau gemau yn 2005.

'Taliadau anesboniadwy'

Fe wnaeth archwilwyr ddarganfod tystiolaeth o "daliadau anesboniadwy" pan wnaeth Ravel Morrison ymuno â Chaerdydd ar fenthyg yn 2014, a Pagliara oedd asiant y chwaraewr ar y pryd, yn ôl y papur newydd.

Ond yn ystod ymchwiliad yr Adar Gleision, ni wnaeth y clwb drafod yr honiadau gydag Allardyce - rheolwr West Ham ar y pryd - y Gymdeithas Bêl-droed na'r heddlu.

Gall y methiant i adrodd hyn i'r Gymdeithas Bêl-droed fod yn groes i reolau'r corff.

Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth Ravel Morrison saith ymddangosiad i Gaerdydd tra ar fenthyg yn 2014

Mae'r Telegraph yn dweud bod cwmni allanol wedi cynnal ymchwiliad mwy trylwyr ond eu bod wedi methu darganfod unrhyw dystiolaeth bod Allardyce na Pagliara wedi derbyn arian fel rhan o'r trosglwyddiad, a bod Caerdydd felly wedi cau'r ymchwiliad.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb o dde Cymru: "Ni chafodd Mr Pagliara ei dalu gan y clwb. Fe wnaethon ni ymchwilio yn drylwyr i'r mater."

Mae Pagliara wedi gwadu talu llwgrwobr i unrhyw reolwr, ac fe wadodd unrhyw honiadau o ymddygiad amhriodol yn ystod trosglwyddiad Morrison.

Mae'r Telegraph wedi pasio eu gwybodaeth ymlaen i'r Gymdeithas Bêl-droed a'r heddlu.