Cyhuddo Edwina Hart o dorri côd gweinidogol

Edwina Hart
Image caption Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Edwina Hart o dorri'r Côd Gweinidogol

Mae cyn weinidog wedi cael ei chyhuddo o dorri côd gweinidogol Llywodraeth Cymru wrth gymeradwyo cefnogaeth o £3.4m i gwmni o Abertawe aeth i'r wal yn ddiweddarach.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am "edrych eto ar y côd gweinidogol, sy'n dangos diffyg annibyniaeth a thryloywder yn ei ffurf bresennol."

Yn 2013 a 2014, penderfynodd y gweinidog economi ar y pryd, Edwina Hart, i gefnogi Kancoat, er iddi gael gwybod bod gan y cwmni gynllun busnes "gwan".

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud fod amodau'r gefnogaeth yn "gyson a'r côd gweinidogol" oherwydd bod y cwmni y tu allan i etholaeth y gweinidog.

Mae cais wedi ei wneud am sylw gan Ms Hart, sydd bellach wedi rhoi'r gorau i fod yn aelod cynulliad ar gyfer etholaeth Gŵyr.

Cafodd Kancoat ei sefydlu ar safle hen ffatri Alcoa yn Waunarlwydd, i gynhyrchu deunydd ar gyfer caniau bwyd a nwyddau eraill.

Mae'r safle hanner milltir y tu allan i etholaeth Ms Hart.

Gwrthdaro buddiannau posib

Datgelodd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru fod dyled o £2.6m gan y cwmni i'r llywodraeth. Cafodd 12 o swyddi eu creu gan y cwmni ond fe aeth i drafferthion wrth geisio cynnal y cyflenwad dur.

Dywedodd cyn oruchwylydd ar safonnau bywyd cyhoeddus fod swyddi posib i etholwyr Ms Hart yn golygu bod yna wrthdaro buddiannau posib.

Dywedodd Sir Alistair Graham, cadeirydd Pwyllgor Safonau Bywyd Cyhoeddus y De rhwng 2004-7: "O gofio bod etholaeth y gweinidog fel aelod cynulliad y drws nesa i safle Kancoat, mae'n debygol y byddai ei hetholwyr yn elwa o greu swyddi newydd."

"Pan fo gweinidogion yn ansicr a oes yna wrthdaro rhwng eu cyfrifoldebau gweinidogol ac etholaethol, fe ddylen nhw ymgynghori a'r Prif Weinidog am benderfyniad ar sut i ddelio a'r busnes."

Fe ddaeth cais o dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig, o hyd i'r ffaith nad oedd yna gofnod o gyfarfod rhwng Ms Hart a'r Prif Weinidog i drafod rhoi grant ariannol i Kancoat.

Dywedodd Suzy Davies AC, aelod Ceidwadol dros dde ddwyrain Cymru: "Daw'r penderfyniad hwn ar gefn cyfres o benderfyniadau ariannol gwael gan Lywodraeth Cymru.

"Rwy'n teimlo'n gryf bod angen gweddnewid y Côd Gweinidogol, sy'n dangos diffyg annibyniaeth a thryloywder ar hyn o bryd."

"All e ddim a bod yn iawn mai'r Prif Weinidog yw unig gymrodeddwr y rheolau hyn."

Image caption Mae Suzy Davies yn galw am newidiadau i'r Côd Gweinidogol

Dywedodd llefarydd ar ran yr Archwilydd Cyffredinol fod ei swyddfa yn "ystyried y posibilrwydd o gynnal adolygiad ehangach i gynllun noddi busnesau Llywodraeth Cymru", fyddai'n cynnwys y nawdd i Kancoat.

Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod y penderfyniad i gefnogi Kancoat wedi ei wneud ar y disgwyliad y byddai 30 o swyddi'n cael eu creu.

Pan ofynnwyd i'r Prif Weinidog Carwyn Jones, ym mis Awst a oedd Ms Hart wedi torri'r côd gweinidogol, dywedodd nad oedd wedi gwneud hynny: "Ble ydych chi'n tynnu'r llinell? Er enghraifft, os oes yna benderfyniad i gefnogi busnes yng Nghaerdydd, fe allai'r cwmni hwnnw gyflogi pobl o wahanol etholaethau. Dydy pobl ddim yn gweithio o fewn yr etholaeth maen nhw'n byw ynddi.

"Y rheol sydd gennym ni yw na allwch chi wneud penderfyniad ar rywbeth sy'n effeithio ar eich etholaeth, neu sydd o fewn eich etholaeth.

"Ond y realiti yw na fyddai neb yn gallu gwneud penderfyniad, petawn ni'n dweud bod yn rhaid sicrhau nad oes neb o fewn eich etholaeth yn gweithio yn y busnes penodol hwnnw cyn y gallen ni gynnig cymorth.

"Felly dyna'r rheolau rydyn ni'n eu cadw, a na, wnaeth hi ddim torri'r côd gweinidogol.

Dywedodd Mr Jones na fyddai angen i'r cyn weinidog fod wedi ymgynghori ag e am gynnig arian cymorth i Kancoat "oherwydd mai'r rheol yw nad ydych chi'n gwneud penderfyniad fel gweinidog ar rywbeth sy'n effeithio'n uniongyrchol ar eich etholaeth o fewn eich etholaeth."