Aelodau'r blaid Geidwadol i gyd yn unedig medd AS

Ym mis Mehefin fe bleidleisiodd etholwyr Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd y Prif Weinidog ar y pryd, David Cameron wedi ymgyrchu o blaid aros ac wedi'r canlyniad fe gyhoeddodd y byddai yn camu o'r neilltu.

Theresa May, yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd gafodd ei phenodi yn ei le, wedi iddi ennill mwyafrif gan aelodau o'r blaid Geidwadol.

Ar ddiwrnod cyntaf cynhadledd y blaid Geidwadol yn Birmingham, yr Aelod Seneddol ar gyfer Sir Fynwy, David Davies sydd wedi bod yn ateb cwestiynau BBC Cymru Fyw.

Beth fydd y prif bynciau yn y gynhadledd eleni?

"Wel yn amlwg yr holl drafodaeth dros Brexit. Mae'n mynd i fod yn bwysig i bawb. Mae pawb yn mynd i siarad am y pwnc tu mewn a thu allan y neuadd."

O ran Brexit pa mor rhanedig ydy'r blaid ar y pwnc yma?

"Mae pawb yn cytuno nawr bod rhaid i ni ddod at ein gilydd a chefnogi'r llywodraeth sydd yn mynd i gario allan dyheadau'r cyhoedd.

"Fel un sydd wedi arwain yr ymgyrch Brexit yng Nghymru dw i'n derbyn bod y rhai sydd wedi pleidleisio ffordd arall, bod nhw wedi credu bod nhw yn gwneud y peth gorau ar gyfer y wlad.

"Mae pawb yn gallu parchu ei gilydd ac yn cefnogi'r llywodraeth nawr fel rydyn ni yn trafod telerau ein ffordd allan."

Image caption Theresa May a'i gŵr tu allan i rif 10 ar ôl iddi gael ei phenodi yn Brif Weinidog

Pa mor hapus yw'r aelodau gyda'r ffordd mae Theresa May wedi bod yn trafod Brexit? Oes yna deimlad ei bod hi wedi bod yn cicio ei sodlau?

"Na ddim o gwbl. Dw i'n meddwl bod mwyafrif mawr yn hollol hapus gyda hi.

"Dw i wedi pleidleisio ar ei chyfer hi er bod hi wedi bod ar ochr arall yr ymgyrch. Mae gyda fi hyder 100% yn y ffordd mae wedi arwain ein plaid ers iddi gymryd drosodd.

"Dw i ddim wedi clywed gair yn ei herbyn hi ers ei bod hi wedi dechrau. Mae hynny yn wir, dim un gair gan unrhyw un. Mae pawb yn hapus."

Oes gan y llywodraeth gynllun ar gyfer Brexit?

"Oes. Y cynllun yn glir iawn yw tynnu allan cyn yr etholiad nesaf. Mae'n rhaid i ni negotiate y manylion gyda gwledydd eraill. Allwn ni ddim jest tynnu allan nawr, yn syth.

"Bydd hynny yn achosi tipyn bach o ffrae. Dyna pam mae'n rhaid i ni wario ychydig fisoedd yn ystyried y posibiliadau a siarad yn answyddogol gyda gwledydd eraill.

"Dw i'n meddwl y byddwn ni yn dechrau Erthygl 50 yn y flwyddyn newydd ac wedyn byddwn ni yn cael dwy flynedd i dynnu allan."

Beth am lais Cymru yn y trafodaethau Brexit? Oes yna beryg bod llais Cymru yn mynd i gael ei anghofio?

"Ddim o gwbl. O'dd llais Cymru yn glir iawn.

"O'dd mwyafrif eisiau dod allan o'r undeb ac mae'n bwysig iawn bod ni yn cofio hynny ac yn sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed.

Image caption Mae Theresa May wedi dweud na fydd hi yn dechrau trafodaethau swyddogol ynglŷn â Brexit eleni

"Mae 'na rhai wrth gwrs yn y Senedd sydd eisiau anghofio am y ffaith bod y mwyafrif wedi pleidleisio i dynnu allan ac eisiau sicrhau bod ni yn gwrando ar eu llais nhw, y ffaith bod nhw eisiau aros i mewn.

"Bydd rhaid i ni wrando ar hynny ond mae'n rhaid i ni gofio bod Cymru wedi pleidleisio i ddod allan a dyna'r llais mae'n rhaid i ni wrando arno."

Ydach chi yn meddwl y dylai yna fod etholiad cyffredinol nawr fel bod Theresa May yn cael mandad go iawn i fod yn Brif Weinidog?

"Ddim o gwbl achos roedd gyda'r Llywodraeth Geidwadol y mandad i gael y refferendwm, roedden nhw yn glir am hynny cyn yr etholiad.

"Maen nhw wedi dweud bod nhw yn mynd i ddilyn dymuniadau'r cyhoedd, dyna yn union beth maen nhw yn mynd i wneud, dyna beth rydyn ni yn gwneud nawr."

Sut mae'r blaid wedi newid o dan arweinyddiaeth Theresa May?

"Mae'n early days ar hyn o bryd ond dw i'n siŵr bod y pwyslais yn mynd i fod yn wahanol.

"Mae'n edrych yn debygol i fi bod hi yn mynd i roi fwy o bwyslais ar y tlawd ond ar yr un pryd efallai gwneud mwy am fewnfudo. Dw i'n meddwl bod ni yn mynd i weld pethau yn newid ychydig bach.

"Ond mae cyfeiriad y Llywodraeth Geidwadol yn glir. Mae'n bwysig iawn i gael gwared o'r deficit, sicrhau bod ni yn cael economi cryf a nawr tynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd."