Buddugoliaeth haeddiannol i Wrecsam oddi cartref

Image caption John Rooney gafodd y gôl i Wrecsam

Boreham Wood 0-1 Wrecsam

Daeth gwên yn ôl ar wyneb Gary Mills, rheolwr tîm pêl-droed Wrecsam, wrth i'r tîm o'r Gogledd Ddwyrain gipio buddugoliaeth oddi cartref.

Mae yna alw wedi bod o fwy nag un cyfeiriad i'w sacio wedi cyfres o ganlyniadau siomedig.

Fe ddechreuodd Wrecsam yn dda yn Parc Meadow yn erbyn Boreham Wood.

Am ugain munud roedd y tîm o'r Gogledd yn chwarae pêl-droed pwrpasol a hyderus.

Ond am y 25 munud olaf yr hanner doedd dim siâp ar yr un o'r ddau dîm a symol iawn oedd safon y chwarae.

Dyw Wrecsam ddim wedi sgorio ers pedair gêm. Yn yr ail hanner fodd bynnag, bum munud cyn yr awr, fe lwyddodd Wrecsam i rwydo.

John Rooney oedd y sgoriwr efo foli troed chwith dda.

Cafodd Wrecsam ddihangfa wedyn fwy nag unwaith wrth i Boreham daro yn ôl ac ymosod yn ffyrnig.

Roedd raid i Gary Mills gnoi ei winedd drwy weddill y gêm wrth i'w dîm ddal at y fantais fain o un gôl a dychwelyd adref gyda buddugoliaeth haeddiannol.