Y bocsiwr Cleverly yn curo Juergen Braehmer

Cleverly Image copyright Getty Images

Mae'r Cymro Nathan Cleverly wedi curo Juergen Braehmer i ennill un fersiwn o bencampwriaeth is-drwm y byd.

Roedd yr ornest yn Neubrandenburg, yr Almaen yn un cyflym ac fe ddangosodd Nathan Cleverly fod ganddo ddisgyblaeth wrth iddo gael sawl pwniad pwerus gan ei wrthwynebydd.

Ond roedd Cleverly yn ergydio yn fwy aml ac wedi'r chweched rownd, lle'r oedd Cleverly yn amlwg yn meistroli, doedd Braehmer ddim yn medru parhau gyda'r ornest.

Dyma'r tro cyntaf i Braehmer, sydd yn 37, gael ei stopio mewn gyrfa sydd wedi para am 51 o ornestau.

Mae Cleverly nawr wedi ennill 30 o'i 33 gornest proffesiynol.

Dywedodd Nathan Cleverly wedi'r ornest mai'r "llew ifancach enillodd."