Buddugoliaeth am yr eildro i'r Scarlets

Treviso 6-22 Scarlets

Am yr eildro yn olynol fe gafodd y Scarlets fuddugoliaeth wedi gêm ymosodol yn erbyn Treviso yn yr Eidal.

Cic gosb Tommaso Allan oedd yr unig bwyntiau ar y sgorfwrdd yn yr hanner cyntaf.

Cafwyd ciciau cosb gan Rhys Patchell a Allan cyn y gais gyntaf gan Werner Kruger.

Daeth dau gais arall gan DTH van der Merwe a Steff Evans gan olygu bod buddogliaeth nawr yn anorfod.

Mae tîm y Sosban nawr yn symud i'r seithfed safle.