Theresa May eisiau gwrando ar farn Llywodraeth Cymru

May

Mae'r Prif Weinidog Theresa May wedi dweud ei bod eisiau gwrando ar farn Llywodraeth Cymru, cyn dechrau ar y trafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd ei bod eisiau "clywed y farn o wahanol rannau'r Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau eu bod yn rhan o'r broses".

Ond mae'n mynnu mai Llywodraeth Prydain fydd yn trafod gyda'r Undeb Ewropeaidd, nid Llywodraeth Cymru.

Dywedodd wrth y gynhadledd dydd Sul nad oes dewis ond gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac na fydd hi'n gadael i "genedlaetholwyr rhwygol danseilio'r undeb gwerthfawr rhwng pedair gwlad ein Teyrnas Unedig".

Yn y cyfamser mae David Jones, sydd yn un o weinidogion adran Brexit y llywodraeth, wedi dweud ei bod hi'n "anhebygol" y bydd Prydain yn aros yn aelod o'r farchnad sengl wedi i'r wlad adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd AS Gorllewin Clwyd bod y llywodraeth eisiau cael mynediad i'r farchnad sengl "ar y termau gorau posib".

'Rhan o'r broses'

Mae Mrs May wedi cyhoeddi y bydd y broses ffurfiol o adael yn dechrau erbyn mis Mawrth nesaf.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r trafodaethau hynny meddai: "Roeddwn i'n hapus iawn mai un o'r ymweliadau cyntaf y gwnes i fel prif weinidog yn ôl yng Ngorffennaf oedd i Gaerdydd.

"Fe eisteddais i lawr gyda'r prif weinidog ac fe siaradais gyda'r ysgrifennydd gwladol Alun Cairns, ac fe siaradais a nhw ynglŷn â sut mae cynnwys Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau 'da ni'n cael.

"Wrth gwrs, y Deyrnas Unedig sydd yn negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd ynglŷn â thermau Brexit. Dwi eisiau iddo fod yn llwyddiant.

Image caption Dywedodd David Jones ei bod hi'n "anhebygol" y bydd Prydain yn aros yn aelod o'r farchnad sengl

"Ond wrth baratoi dwi eisiau gwrando ar y sefydliadau datganoledig, i wrando ar y farn mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig fel eu bod yn rhan o'r broses ac yn parhau yn rhan o'r broses."

Wrth drafod dyfodol arian Ewropeaidd i Gymru, dywedodd y byddai Llywodraeth Prydain yn gwarchod yr arian y mae ffermwyr yn ei gael o Frwsel tan 2020, ond bod angen "trafodaethau pellach gyda nhw ynglŷn â beth fydd yn dod wedyn".

'Hen bryd gwrando'

Cafodd sylwadau Mrs May eu hategu gan David Davies, AS Mynwy, a ddywedodd wrth raglen Y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, y byddai'r Prif Weinidog yn gwrando ar Lywodraeth Cymru ond ei bod hi'n bwysig hefyd gwrando ar farn pobl Cymru oedd o blaid Brexit.

Fe awgrymodd hefyd bod Carwyn Jones yn rhagrithiol wrth alw ar lywodraeth Theresa May i wrando ar Gymru, pan oedd yntau wedi sefydlu grŵp o 20 o bobl i gynghori ar Brexit, sydd ddim ond yn cynnwys un person oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae'n hen bryd i Carwyn a gweddill Llywodraeth Cymru wrando ar lais y bobl yng Nghymru, ac mae'r llywodraeth yn San Steffan yn mynd i wneud hynny," meddai.

"Mae'n bwysig iawn i drafod y pwnc gyda nhw [Llywodraeth Cymru] ond mae'n bwysig cofio bod mwyafrif pobl Prydain wedi pleidleisio i dynnu allan ac i gael rheolaeth dros fewnfudwyr a chael ein harian yn ôl.

"Mae'n bwysig bod y llywodraeth yn cofio hynny, mae'r llywodraeth yn San Steffan yn cofio hynny, ond dwi ddim yn siŵr am y llywodraeth ym Mae Caerdydd."

Wrth ymateb i sylwadau Mrs May, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn hollol glir - mae mynediad i'r farchnad sengl yn hanfodol ar gyfer dyfodol economaidd Cymru.

"Mae'n rhaid i ni hefyd gael lle o gwmpas y bwrdd negydu, fel y gallwn sicrhau'r canlyniad gorau ar gyfer Cymru."