Dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad difrifol ger Caerdydd

cyffordd 33 M4 Image copyright Traffig Cymru
Image caption Mae tipyn o oedi o gwmpas cyffordd 33 yr M4

Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ffordd yr A4232 ger Caerdydd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad toc wedi 7:00 fore ddydd Mawrth ar y ffordd ddeheuol tuag at y ddinas, ar ôl i gar llwyd Seat Ibiza droi ben i waered rhwng cyffordd 33 yr M4, a'r troad tuag at Sain Ffagan.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dynes 53 oed wedi cael ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, ond fe gadarnhawyd yn ddiweddarach ei bod wedi marw.

Ychwanegodd swyddogion nad oedden nhw'n credu bod unrhyw gerbyd arall yn rhan o'r gwrthdrawiad, ond maen nhw wedi apelio ar i unrhyw un welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Cafodd y ffordd ei chau am dair awr a hanner wrth i'r heddlu gynnal eu hymchwiliad, gan achosi cryn oedi o gwmpas cyffordd 33 yr M4 yn ogystal â chyffyrdd 32 a 34.