Caerdydd yn penodi Neil Warnock fel rheolwr

Neil Warnock Image copyright Getty Images

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi penodi Neil Warnock fel rheolwr newydd y clwb.

Cafodd Paul Trollope ei ddiswyddo ddydd Mawrth ar ôl dechrau gwael i'r tymor.

Dywedodd y clwb mewn datganiad y bydd Kevin Blackwell hefyd yn ymuno fel is-reolwr, gyda Ronnie Jepson yn cymryd rôl fel hyfforddwr gyda'r tîm cyntaf.

Dyw'r tîm ddim wedi cael dechrau da i'w tymor yn y Bencampwriaeth, gan ennill dwy o'u 11 gêm hyd yn hyn.

Bydd James Rowberry, Martyn Margetson a Lee Southernwood yn parhau'n rhan o'r tîm hyfforddi.

Fe wnaeth cyn reolwr Sheffield United, sy'n 67 oed, helpu Rotherham i osgoi cwympo o'r Bencampwriaeth y tymor diwethaf ond penderfynodd adael y clwb yn yr haf.

Caerdydd fydd 14eg swydd Warnock fel rheolwr.