Ffermwyr Cymru 'ymysg y rhai â'r mwyaf i'w golli'

FFermwyr Cymru

Mae ffermwyr Cymru "ymysg y rheini a'r mwyaf i'w golli" os yw'r DU yn methu sicrhau cytundeb masnach cyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mewn cyfweliad a BBC Cymru, dywedodd y corff sy'n gyfrifol am ddatblygu a marchnata cigoedd Cymreig nad oedd hi'n "realistig" denu digon o sylw o farchnadoedd rhyngwladol i ddisodli prynwyr fel "Ffrainc, yr Eidal a'r Almaen".

Yr wythnos hon, mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi arwyddo cytundeb arloesol gyda 300 o archfarchnadoedd yng Nghanada, ar ol "blynyddoedd o waith".

Ond ar hyn o bryd ma' dros 90% o gig oen a chig eidion Cymru yn cael ei allforio i'r UE.

Yn ôl Dai Davies, Cadeirydd HCC, mae'r wlad wedi arwain y ffordd o ran allforion cig oen yn enwedig, gan lwyddo i werthu mwy o'r cynnyrch i farchnadoedd y tu hwnt i Ewrop na'r un rhanbarth arall yn yr UE.

Ond mynnodd ei bod hi'n cymryd blynyddoedd i sicrhau llwyddiant sylweddol.

"Pan y'ch chi'n cael mynediad i wlad benodol dyw'r arwerthwyr ddim i gyd yn dweud, "Reit, dewch mla'n de bois". Er mwyn ca'l eich cig chi i mewn i siopau, mae'n rhaid gweithio'n galed a disodli rhywun arall."

"Y'n ni wedi bod yn datblygu marchnad gref yn Ewrop ers rhyw ddeuddeg mlynedd - yn enwedig mewn gwledydd fel yr Eidal, Ffrainc a'r Almaen. Mae'n hollbwysig ein bod ni'n dal i fedru gwerthu yno."

Image caption Mae dros 90% o gig oen a chig eidion Cymru yn cael ei allforio i'r UE ar hyn o bryd

Oni bai bod cytundeb masnach yn cael ei sefydlu gyda'r UE ar ôl Brexit, mae HCC yn honni y byddai prisiau cynnyrch i ffermwyr Cymru yn gostwng yn sylweddol gan y byddai eu hallforion yn denu tollau.

Y doll bresennol am gig oen, er enghraifft, yw 12.8% + €1.71 y cilogram.

"Bydde hynny'n cael effaith sylweddol", meddai Dai Davies, gan ddadlau y byddai'n rhaid i wleidyddion gyflwyno mesurau i "esmwytho'r gwymp", megis tollau tebyg ar fewnforion i'r DU.

Mae cynrychiolwyr o'r diwydiant amaeth yn ymgynnull yn Llanelwedd ar gyfer cynhadledd ar oblygiadau Brexit i fyd ffermio.

Mae disgwyl i gannoedd fynychu'r digwyddiad sydd wedi ei drefnu gan Undeb Amaethwyr Cymru.

Bydd y ddarlith agoriadol yn cael ei gyflwyno gan yr economegydd Warwick Lightfoot, sy'n bennaeth ymchwil gyda'r felin drafod Policy Exchange.

'Dysgu gweithredu'

Fe ddywedodd wrth BBC Cymru y byddai'n rhaid i ffermwyr "ddysgu i weithredu mewn byd newydd lle nad oedd eu marchnadoedd wedi'u gwarchod".

Ond ar yr un pryd, mynnodd bod Brexit yn gyfle i'r DU lunio polisi amaeth fyddai wedi'i dargedu'n well ac yn helpu ffermwyr Cymru.

"Be 'dy ni ddim eisiau yw system ddrud, di-ffocws o fudd-daliadau sy'n rhoi cymorth i fusnesau amaeth rhyngwladol mawr ar draul y fferm draddodiadol a chwsmeriaid," meddai.

"Mae angen i chi (yng Nghymru) ddadlau dros eich anghenion neilltuol chi fel cenedl. Ma' na gymunedau ar hyd a lled y DU lle nad yw'r drefn bresennol yn gweithio - fe ddyle ni nawr fod yn gallu dechrau o'r newydd a llunio polisi amaeth sy'n fwy penodol."

Yn ôl Glyn Roberts, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, mae caffaeledd neu procurement yn un ardal lle y gall e weld budd o adael yr UE: "O fewn yr Undeb mae'n rhaid i bob broses caffaeledd yn y sector gyhoeddus gael ei gynnig ar draws Ewrop.

"Fe allwn ni nawr fod yn fwy penodol a mynnu bod y sector gyhoeddus yn prynu'n lleol ac yn lleihau allyriadau carbon. A gallai hynnu gynyddu faint o gig y'n ni'n ei werthu o fewn y DU."