Colchester 0-0 Casnewydd

Colchester Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Llwyddodd Casnewydd i gadw llechen lân am y tro cyntaf ers 13 Awst

Llwyddodd Casnewydd i sicrhau pwynt dan y rheolwr dros dro Sean McCarthy, cyn i'w rheolwr newydd Graham Wesley gymryd at yr awennau.

Di-sgôr oedd y canlyniad, er i Jon Parkin a Jordan Green ddod yn agos at sgorio.

Dywedodd Sean McCarthy: "Yn amlwg, fe fydden i wedi hoffi cael tri phwynt, ond dydy llechen lân byth yn colli gêm i chi. Mae'n bwynt i ffwrdd o gartref ac mae hwnnw'n bwynt da."

"Fe amddiffynnon nhw'n dda heddi a chael eu gwobrwyo am hynny."

Ond, er gwaetha sicrhau pwynt, mae Casnewydd yn aros ar waelod y tabl.