Cymru v Georgia: Pedwar cynnig i Gymro?

Gareth Bale Image copyright Stu Forster

Wrth i dîm pêl-droed Cymru baratoi i wynebu Georgia yn Stadiwm Dinas Caerdydd brynhawn dydd Sul, Owain Llyr sy'n pwyso a mesur y gobeithion cyn trydedd gêm ragbrofol Pencampwriaeth Cwpan y Byd.

Ar ôl y fuddugoliaeth yn erbyn Moldofa a'r gêm gyfartal yn erbyn Awstria, mae Cymru ar frig y grŵp ar ôl chwarae dwy gêm.

Ond mae angen iddyn nhw fod yn wyliadwrus o Georgia achos tydyn nhw erioed wedi ennill yn eu herbyn. Mae'r ddwy wlad wedi chwarae'n erbyn ei gilydd ar dri achlysur, ac mae Georgia wedi ennill y tair gêm.

Mae Chris Coleman wedi disgrifio'r golled 5-0 yn Tiblisi yn 1994 fel ei gas atgof o chwarae dros Gymru.

Mae Georgia 127 o safleoedd yn is na Chymru yn rhestr detholion FIFA.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Cymru'n colli Joe Allen ac Aaron Ramsey sydd, eu dau, allan oherwydd anaf

Ond ar ôl dweud hynny, fe enillon nhw 1-0 yn erbyn Sbaen mewn gêm gyfeillar ym mis Mehefin, a dim ond colli 2-1 a 1-0 y gwnaethon nhw yn erbyn Awstria a Gweriniaeth Iwerddon yn eu gemau agoriadol yn yr ymgyrch ragbrofol bresennol.

Tydi chwaraewr canol cae Cymru, Joe Allen, ddim yn holliach ar gyfer y gêm, ar ôl iddo ddioddef anaf i gefn rhan uchaf ei goes yn y gêm yn erbyn Awstria Nos Iau.

Mae disgwyl i David Edwards o glwb Wolverhampton Wanderers gymryd ei le yn y tîm.

Bydd gêm Cymru v Georgia yn dechrau am 17:00, a chofiwch y gallwch ddilyn y gêm ar ein llif byw arbennig.