Pryder ffermwyr am gynlluniau parthau nitrad y llywodraeth

gwartheg

Bydd NFU Cymru yn cynnal cyfarfod yn Hwlffordd nos Iau i drafod cynlluniau'r Llywodraeth i ymestyn rheolau yn ymwneud â llygredd amaethyddol.

Mae gweinidogion yn cynnal ymgynghoriad ynglŷn â'r opsiwn o gyflwyno mwy o Barthau Bregus Nitrad, neu NVZ's.

Mae'r ymgynghoriad newydd yn cynnig ymestyn y parthau i Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Sir Fôn.

O ganlyniad bydd chwarter o ffermwyr llaeth a hanner o ffermydd tatws y wlad o dan gyfyngiadau.

Bwriad hyn yw diogelu ansawdd dŵr mewn afonydd a llynnoedd mewn rhannau o'r wlad sy'n fregus i lygredd nitrad.

'Un NVZ fawr'

Bydd aelodau NFU Cymru yn cwrdd heno ar faes y sioe yn Hwlffordd i glywed mwy am yr ymgynghoriad a lleisio'u barn.

Yn ôl undebau amaeth fe allai cyfyngiadau pellach ar sut mae ffermwyr yn gwasgaru a storio eu slyri olygu bod sawl ffarm yn mynd i'r wal.

Er mai ond rhyw 3% o dir Cymru sydd wedi'i ddynodi'n NVZ, mae 'na opsiwn hefyd yn yr ymgynghoriad i ddynodi Cymru gyfan fel un NVZ fawr.

Yn ôl ymgyrchwyr amgylcheddol mae'r rheolau yn hollbwysig i atal afonydd rhag cael eu llygru gan lefelau uchel o nitrad.

Dywed Llywodraeth Cymru hefyd bod sicrhau system effeithiol o reoli nitradau yn gwella enw da diwydiant amaeth Cymru, gan ei fod yn pwysleisio'r ffordd y mae'n helpu gwarchod yr amgylchedd.

'Pryder mawr'

Mae ffermydd mewn ardaloedd sydd wedi'u dynodi yn NVZ yn wynebu rheolau llym ynglŷn â sut maen nhw'n storio a gwasgaru eu slyri.

Petai'r parthau'n cael eu hymestyn mae undebau amaeth yn dadlau y byddai'n rhaid i sawl fferm fuddsoddi degau os nad cannoedd o filoedd o bunnau mewn stordai slyri newydd.

Mae 'na bryder mawr yn Sir Benfro felly - yn enwedig lle mae dirwasgiad mewn prisiau llaeth - ble mae sawl ffermwr eisoes wedi bod yn ymdrechu i barhau yn y diwydiant.

Dywedodd Dr Hazel Wright, Swyddog Llywydd Polisi Undeb Ffermwyr Cymru (FUW), bod dau brif gynnig yn yr ymgynghoriad.

Image caption Byddai dynodi Cymru gyfan yn ardal NVZ yn ddiangen ac annheg, yn ôl Hazel Wright

Y cyntaf ydy i gynyddu nifer o barthau NVZ i 8%. Er mai Sir Benfro ydy'r prif darged, mae cynlluniau hefyd yng Nghaerfyrddin ac Ynys Môn i weld cynnydd yn nifer y parthau.

Yr ail opsiwn - sy'n amhoblogaidd o fewn yr FUW - ydi dynodi Cymru gyfan fel NVZ fawr.

"Mae'n rhaid gwneud yn siŵr taw amaethyddiaeth ydy'r brif ffynhonnell sy'n cyfrannu at y llygredd dŵr. Mae dynodi Cymru gyfan yn ddiangen ac yn annheg i'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd sydd ddim yn fregus i lygredd nitrad," meddai Dr Hazel Wright.

Mae'r ymgynghoriad yn para tan Ragfyr 23 ac mae Llywodraeth Cymru'n dweud ei bod nhw'n bwriadu cyflwyno'r parthau newydd yn 2017.