Dathlu'r iaith ar ddiwrnod Shwmae Su'mae

shwmae su'mai Image copyright Swci Delic
Image caption Yr artist Swci Delic sydd wedi dylunio'r gwaith celf ar gyfer y dathliad eleni

Mae Diwrnod Shwmae Su'mae yn cael ei nodi mewn digwyddiadau ar hyd a lled Cymru ddydd Sadwrn.

Bwriad y dathliad blynyddol yw annog pobl i gychwyn sgyrsiau yn Gymraeg.

Dywedodd Rebecca Williams, cadeirydd grŵp Dathlu'r Gymraeg sy'n cydlynu'r digwyddiad, bod y diwrnod yn "gyfle i ddathlu'r iaith - ac i sicrhau'r nifer fwyaf o gyfleoedd posib i'w defnyddio".

Cafodd y diwrnod ei gynnal am y tro cyntaf bedair blynedd yn ôl.

'Magu hyder'

Un o bencampwyr y dathliad eleni yw Ashok Ahir, gafodd ei ddewis yn gadeirydd ar bwyllgor gwaith Eisteddfod Caerdydd 2018 ychydig ddyddiau'n ôl.

"Mae Shwmae Su'mae yn annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg pob dydd, trwy ddangos pa mor hawdd y gall fod," meddai.

"Mae'n gyfle i fagu hyder trwy siarad Cymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol."

Straeon perthnasol