Uwch Gynghrair Lloegr: Arsenal 3-2 Abertawe

Abertawe Image copyright Getty Images

Fe wnaeth Theo Walcott sgorio ddwywaith wrth i 10 dyn Arsenal drechu Abertawe yng ngêm gyntaf yr Americanwr Bob Bradley fel rheolwr.

Llwyddodd i Walcott gymryd mantais o gamgymeriad Jordi Amat i sgorio ei gôl gyntaf cyn i gamgymeriad arall gan Jack Cork ei helpu tuag at ei ail.

Ond daeth gobaith i'r Elyrch wrth i Gylfi Sigurdsson rwydo cyn hanner amser.

Fe wnaeth Mesut Ozil sgorio i adfer mantais dwy gôl y tîm cartref, ond fe wnaeth yr eilydd Borja Baston rwydo o groesiad Modou Barrow i'w gwneud hi'n ddiwedd cyffrous.

Ychwanegwyd at hynny hefyd wrth i Granit Xhaka weld cerdyn coch i Arsenal gyda 20 munud yn weddill, ond roedd y tîm cartref eisoes wedi gwneud digon i sicrhau'r thriphwynt.