Arddangos cynlluniau datblygiad Hwlffordd i'r cyhoedd

Hwlffordd Image copyright Holder Mathias Architects

Bydd cynlluniau i ddatblygu rhan o Hwlffordd yn cael ei ddatgelu i'r cyhoedd ddydd Llun.

Mae cwmni Fairacre eisiau dymchwel rhan o'r siop Wilko bresennol i greu sinema aml-sgrin a phedwar bwyty ar hyd Afon Cleddau.

Dywedodd y cwmni y byddai'n mynd i'r afael â diffyg darpariaeth hamdden yn y dref.

Bydd y cynlluniau'n cael eu harddangos yng nghanolfan siopa Riverside rhwng 13:00 a 19:30.

Mae'r ymgynghoriad, sy'n cael ei chynnal cyn cais swyddogol, yn para hyd at 4 Tachwedd.