Mwy poblogaidd 'na Simon Cowell
- Published
Mae ganddo fwy o ddilynwyr Facebook na Simon Cowell, Robbie Williams ac Ant a Dec, ond ddim Mr. Urdd wrth reswm. Ond ydych chi wedi clywed am Ben Phillips?
Mae'r Cymro 23 oed o dalgylch Eisteddfod yr Urdd eleni, ymhlith sêr newydd y we ac mae ei fideos yn cael eu gweld gan tua tri BILIWN o bobl pob mis. Mae dros wyth miliwn a hanner o bobl yn dilyn ei dudalen Facebook.
Beth yw'r gyfrinach? Bu Ben yn egluro wrth Cymru Fyw:
Brand byd-eang
Rwy'n methu â chredu fy mod i mor lwcus. I roi poblogrwydd y fideos mewn rhyw fath o gyd-destun, mae dwywaith poblogaeth Cymru'n fy nilyn i. Mae'n anghredadwy a fi'n gobsmacked yn ddyddiol.
Dechreuodd y cyfan oherwydd o'n i'n ffan o fideos fel hyn ac wedi gweld ambell i prank video ar-lein, ac eisiau treial ambell un mas.
Pwy gwell i dreial nhw mas arno feddyliais ond Elliot? [Elliot yw cyfaill Ben ac sydd yn destun ei driciau i gyd yn eu fideos].
Y peth olaf o'n i'n disgwyl ei weld oedd ei ymateb ffyrnig i'r prank, ond wnes i bostio'r fideo ar-lein ta beth, er mwyn i ambell ffrind gael gweld.
Peth nesa' o'n i'n gwybod, roedd y byd i gyd yn gwylio... a'r cyfan wedi digwydd drwy ffrindiau'n rhannu gyda ffrindiau, wnaeth rannu gyda ffrindiau eraill.
Y 'Laurel and Hardy 'newydd
A dyna hi. Dechreuodd y peth fel bach o laff rhwng ffrindiau ac erbyn hyn mae wedi tyfu'n internet phenomenon ac yn frand byd-eang
Rwy' wedi ceisio dadansoddi pam maen nhw mor boblogaidd, a'r unig reswm alla'i feddwl amdano yw bod y triciau'r math o driciau allech chi chwarae ar eich ffrindiau chi.
Yn ogystal â hyn, mae mwy i'r fideos na jest y triciau, chi'n cael y cyfle i ddod i nabod Elliot a fi ac mae gwastad rhyw stori fach... maen nhw fel rhyw fersiynau poced o'r Truman Show ar Facebook.
Ni'n gweld ein hunain fel rhyw fath o Laurel and Hardy yr oes fodern. Petai ganddyn nhw iPhones rwy'n siŵr y bydden nhw wedi bod yn gwneud hyn hefyd.
Rwy'n gwneud digon i alluogi fi gario 'mlaen i wneud beth fi'n hoffi orau, gwneud fideos. Mae'n cadw to uwch fy mhen ac mae'n golygu fy mod i'n gallu tretio fy nheulu bob hyn a hyn.
Rwy' newydd roi makeover i ardd Mamgu, ac mae'n grêt medru gwneud pethau fel yna.
Mae 'na sôn am brosiect teledu, ac mae dilyniant enfawr gyda ni yn Asia, felly fi'n awyddus iawn i wneud mwy yn y fan honno... falle taith arall, a chyfieithu mwy o'r fideos.
Pwy a ŵyr, falle alle'n ni wneud ffilm ar gyfer y sinema?