Rhyddid Abertawe i Chris Coleman

coleman Image copyright Wales News Service

Mae seremoni wedi cael ei chynnal ddydd Iau i roi rhyddid dinas Abertawe i reolwr Cymru, Chris Coleman.

Fe arweiniodd Coleman, 46 oed, dîm pêl-droed Cymru i'r rownd gynderfynol yng nghystadleuaeth Euro 2016.

Dywedodd yr Arglwydd Faer David Hopkins: "Mae Chris yn fachgen balch o Abertawe, ac yn llysgennad gwych ar gyfer y ddinas, felly mae'n wir haeddu cael cynnig yr anrhydedd uchaf y gallwn ei roi."

Mae pobl eraill sydd wedi derbyn rhyddid y ddinas yn cynnwys y Tywysog Siarl, Yr Arlywydd Jimmy Carter, yn ogystal â'r chwaraewyr pêl-droed John Charles a Mel Nurse.

Yn dilyn y seremoni, bydd dathliad yn cael ei gynnal yn Neuadd Brangwyn, fydd yn cynnwys perfformiad gan James Dean Bradfield o'r Manic Street Preachers.