Casnewydd 1-3 Plymouth

Jordan Slew Image copyright Rex Features
Image caption Mae Jordan Slew wedi sgorio dair gwaith i Plymouth eleni

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gasnewydd ddydd Sadwrn wrth iddyn nhw golli gartref i Plymouth.

Fe aeth yr Alltudion, sydd ar waelod yr Ail Adran, lawr i 10 dyn ar ôl 36 munud pan gafodd y golwr, Joe Day, gerdyn coch am dacl ar Jordan Slew.

Graham Carey sgoriodd y gic ganlynol o'r smotyn i Plymouth, sydd ar frig y tabl.

Fe unionodd Jon Parkin y sgôr i Gasnewydd, ond yr ymwelwyr aeth â hi diolch i gic o'r smotyn arall gan Carey, a gôl hwyr gan Slew.