Saracens 44-26 Scarlets

Mako Vunipola Image copyright Getty Images

Cafodd y Scarlets eu trechu ar eu taith dros y ffin i herio Saracens yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop.

Y tîm cartref oedd yn rheoli'r gêm o'r cychwyn i'r diwedd, gyda cheisiadau gan Mako Vunipola a Nick Tompkins yn eu rhoi ar y droed flaen.

Ond diolch i giciau cosb y maswr, Rhys Patchell, wyth pwynt yn unig oedd rhwng y timau ar yr hanner.

Ddechrau'r ail ran, roedd Saracens yn bygwth rhoi crasfa i'r cochion o Lanelli. Fe diriodd Marcelo Bosch a Chris Wyles i ymestyn y bwlch i 20 pwynt.

Ond yn ôl daeth y Scarlets, gyda chais yr un i Aaron Shingler a'r canolwr Jonathan Davies.

Roedd 'na un cais arall cyn y diwedd i'r Saracens, a hwnnw i Michael Rhodes.

Mae'r Scarlets yn drydydd yn Grŵp 3 gyda phedwar pwynt, tra bod Saracens ar y brig gyda naw.