Safonau iaith: Penfro yn 'llusgo traed' medd cynghorydd

Huw George
Image caption Y cynghorydd Huw George sy'n gyfrifol am yr iaith yn Sir Benfro

Mae cyngor yng ngorllewin Cymru wedi bod yn "llusgo ei draed" ers blynyddoedd wrth weithredu'r safonau iaith, yn ôl cynghorydd sy'n gyfrifol am y Gymraeg.

Daeth sylwadau'r Cynghorydd Huw George wrth drafod penderfyniad Cyngor Sir Penfro i herio rhai o'r safonau, sy'n cael eu gosod gan Gomisiynydd y Gymraeg, mewn tribiwnlys.

Yn ôl y cyngor, diffyg cyfieithwyr "cymwys" sy'n gyfrifol am y penderfyniad i herio.

Ond mae'r penderfyniad wedi ei alw'n "anghyfrifol, sarhaus a gwastraffus" gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae Cyngor Sir Caerffili hefyd yn apelio yn erbyn rhai o'r safonau, a dywedodd llefarydd bod gan y sir hanes hir o "ddatblygu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg".

Fe wnaeth Cyngor Sir Gâr ennill apêl yn erbyn safonau iaith yn gynharach ym mis Hydref.

'Gwers anodd i'w dysgu'

Dywedodd Mr George wrth raglen Taro'r Post ar Radio Cymru bod Cyngor Sir Penfro yn "herio, neu gofyn am gyngor" ynglŷn â safonau'n ymwneud a chyfieithu ar y pryd, yn benodol o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Soniodd bod "anhawster" darganfod pobl "sy'n barod ac yn gymwys" i wneud y gwaith o gyfieithu i'r Gymraeg, er nad oedd problem darganfod pobl i gyfieithu i'r Saesneg.

Yn ôl Mr George, nid yw'r cyngor wedi derbyn cais am y gwasanaeth hyd yn hyn, ac roedd hynny'n rhan o'r rheswm am wneud cais yn erbyn y safon.

Image copyright Ceridwen/Geograph
Image caption Dywedodd Mr George nad yw'r cyngor wedi derbyn cais am y gwasanaeth cyfiethu ar y pryd hyd yn hyn

Ond fe wnaeth hefyd gyfaddef bod yr awdurdod wedi oedi wrth ddelio gyda'r safonau, a bod hynny nawr yn achosi trafferthion:

"Yn Sir Benfro, ni wedi bod yn llusgo'n traed ers blynydde', ac i ni nawr yn lle dysgu cerdded yn gorfod dysgu rhedeg. Ac arno' ni mae'r bai am hynny.

"Ond mae'n wers anodd i'w dysgu mewn amser byr."

'Gwbl afresymol'

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw'r penderfyniad i herio safonau'n "anghyfrifol, sarhaus a gwastraffus", gan ddweud y gallai "effeithio ar bobl fregus - plant, pobl hŷn a phobl mewn sefyllfa o wendid".

Dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl y gymdeithas: "Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod y Safonau ar gynghorau gyda buddiannau pobl mewn golwg, felly pam eu bod mor benderfynol o herio hyn eto?"

Ychwanegodd bod cyrff cyhoeddus wedi cael 20 mlynedd i sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael triniaeth gyfartal, ond bod cynghorau, "nawr yn honni ei fod yn rhy anodd i wireddu eu haddewid".

"Wedi dau ddegawd o esgeuluso eu dyletswyddau cyfreithiol, mae'n gwbl amlwg bod eu heriau i'r hawliau cyfreithiol newydd yn gwbl afresymol."

Mae Cyngor Sir Caerffili hefyd yn herio rhai safonau, a dywedodd llefarydd bod y sir wedi "datblygu a hyrwyddo'r iaith Gymraeg" ac wedi derbyn 176 o'r safonau iaith gafodd eu hargymell gan y Comisiynydd.

Ychwanegodd y llefarydd: "Ond, rydyn ni wedi apelio i Dribiwnlys yr Iaith Gymraeg yn erbyn pedair o'r safonau (21, 41b, 46 a 64) gan ein bod yn credu y dylai rhain gael eu hystyried ymhellach i sicrhau eu bod yn rhesymol ac yn gymesur."

Beth am hwn?

Pum mlynedd yn ôl i'r mis hwn cafodd Meri Huws ei phenodi i rôl newydd sbon - Comisiynydd y Gymraeg. Ond faint o ddylanwad mae hi wedi cael yn ei chyfnod wrth y llyw?

Cliciwch yma i ddarllen mwy.

Image copyright Comisiynydd y Gymraeg

Straeon perthnasol