Tagfeydd ar yr M4 ger Abertawe oherwydd digwyddiad

M4 traffic Image copyright Traffic Wales

Mae ffordd yr M4 ger Abertawe bellach wedi ailagor ar ôl i'r heddlu ei chau am gyfnod er mwyn delio â digwyddiad.

Roedd Heddlu De Cymru wedi rhwystro'r ffordd i'r ddau gyfeiriad yn dilyn y digwyddiad rhwng cyffordd 45, Ynysforgan a chyffordd 46 i Langyfelach.

Mae'r draffordd bellach wedi ailagor, ond mae'r tagfeydd yn parhau i effeithio ar deithwyr i'r gorllewin yn ôl at gyffordd 44, Llansamlet a theithwyr i'r dwyrain hyd at gyffordd 47, Penllergaer.

Dywedodd yr heddlu eu bod wedi cael eu galw am 11:10 i ddigwyddiad yn ymwneud â phont sydd yn croesi'r ffordd.