Gwahardd cyn brifathrawes ysgol gynradd rhag dysgu

Mae cyn brifathrawes ysgol gynradd yng Ngheredigion wedi ei gwahardd rhag dysgu ar ôl i Gyngor y Gweithlu Addysg ei chael yn euog o ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Mae Helen Hopkins yn wynebu gwaharddiad amhenodol, ond fe gaiff yr hawl i ymgeisio i fod ar y gofrestr athrawon ar ôl dwy flynedd. Bydd Cyngor y Gweithlu Addysg yn ystyried ei chais bryd hynny.
Mae ganddi'r hawl i apelio yn erbyn y gorchymyn yn yr Uchel Lys.
Dydd Mercher, daeth y gwrandawiad i'r casgliad fod Mrs Hopkins wedi ymddwyn yn anonest drwy hawlio arian ymchwil ar gyfer costau ei phlant i fynd ar daith i Iwerddon.
Roedd cyn brifathrawes Ysgol Bro Sion Cwilt, Synod Inn, ger Cei Newydd, wedi "hawlio swm yr oedd yn gwybod nad oedd ganddi hawl iddo", medd y pwyllgor.
Penderfynodd y gwrandawiad hefyd fod Mrs Hopkins wedi ymddwyn yn anonest pan gymrodd arian oedd i fod ar gyfer cardiau Nadolig at ei defnydd personol.
Bu'r gwrandawiad yn ystyried tystiolaeth am bedwar diwrnod cyn dod i'w penderfyniad.