Munster 33-0 Gweilch

Munster's Dave Kilcoyne is tackled by Paul James of Ospreys Image copyright Inpho
Image caption Paul James yn taclo Dave Kilcoyne

Fe aeth Munster i frig y Pro12 gyda buddugoliaeth ysgubol yn erbyn y Gweilch yn Cork.

Aeth y Gwyddelod 14-0 ar y blaen yn dilyn cais yr un i'r prop Dave Kilcoyne a'r asgellwr Darren Sweetnam.

Daeth trydydd cais Munster yn dilyn pas wael wrth i'r Gweilch geisio symud y bêl o fewn y 22, a Ronan O'Mahony yn manteisio ar y blerwch.

Daeth ail gais i Kilcoyne wrth i Munster sicrhau pwynt bonws, gyda Robin Copeland yn croesi am rif pump.

Ar ddechrau'r gêm roedd y Gweilch a'r frig y Pro12

Ond roedd hi'n noson siomedig i'r ymwelwyr oedd heb 12 o'u chwaraewyr oherwydd galwadau rhyngwladol.