'Dim budd ariannol i Gymru' o dreth newydd ar gyflogwyr

Ariannu prentisiaethau yw bwriad y dreth newydd gan Lywodraeth y DU
Image caption Ariannu prentisiaethau yw bwriad y dreth newydd gan Lywodraeth y DU

Ni fydd Cymru'n elwa'n ariannol o dreth newydd Llywodraeth y DU ar gyflogwyr, yn ôl y gweinidog sgiliau.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y byddai Cymru'n ennill £130m y flwyddyn o dreth sy'n cael ei chyflwyno i dalu am fwy o brentisiaethau.

Cyflogwyr sy'n talu mwy na £3m y flwyddyn mewn cyflogau fydd yn gorfod talu'r dreth, a hynny o Ebrill 2017.

Ond yn y Cynulliad ddydd Mawrth, dywedodd Julie James AC y byddai'n rhaid i gyflogwyr yn sector gyhoeddus Cymru dalu £30m i drysorlys y DU yn sgil y dreth.

Yn ôl Ms James, mae hynny, ynghyd â thoriadau i gyllidebau eraill, yn golygu na fyddai Cymru ar ei hennill yn ariannol.

Image caption Y gweinidog sgiliau, Julie James AC, yn annerch y Cynulliad ddydd Mawrth

Ychwanegodd Ms James bod y cynlluniau "yn gwrthdaro" â strategaeth Llywodraeth Cymru yn yr un maes.

Mae'r llywodraeth ym Mae Caerdydd wedi addo creu 100,000 o brentisiaethau dros y pum mlynedd nesaf.

Does dim rheidrwydd ar Lywodraeth Cymru i wario'u cyfran o'r dreth ar brentisiaethau, ond fe ddywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar sgiliau ei bod hi'n "hanfodol" bod yr arian yn mynd tuag at hyfforddiant.

Dywedodd AC Plaid Cymru, Simon Thomas, ei fod yn pryderu am gyflogwyr fel Heddlu Gogledd Cymru, sydd ddim yn cynnig prentisiaethau ond fyddai'n dal i orfod talu'r dreth.

'Hawlio' taliad yn ôl

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys y byddai'r dreth yn rhoi £128m i Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn gyntaf yn unig, ac yn galluogi i fwy o brentisiaethau o safon uwch i gael eu creu.

Ychwanegodd y llefarydd y gallai'r llywodraethau datganoledig benderfynu gweithredu cynllun fel yn Lloegr sy'n galluogi i fusnesau "hawlio" eu taliad yn ôl drwy fuddsoddi mewn prentisiaeth.

"Gall y llywodraethau datganoledig nawr benderfynu os ydyn nhw am gynnig yr un cymorth i gyflogwyr neu weithredu cynllun eu hunain," ychwanegodd.