Ail agor tafarn yn y Bala

Y ship
Image caption Elen Parry yn paratoi'r bar ar gyfer noson agoriadol y Ship newydd

Bydd tafarn yn Y Bala yn ail agor ei drysau nos Wener ar ôl cyfnod hir ar gau.

Mae cwpwl lleol, Iwan ac Elen Parry, wedi prynu Y Ship yng nghanol y dref ac wedi ei hadnewyddu.

Mae Elen eisoes yn rhedeg Tafarn Y Plas Coch yn y dre ac mae hi'n edrych ymlaen yn fawr am yr her newydd.

Dywedodd: "Mae hi'n galed iawn ar nifer o fusnesau y dyddiau yma ac ellwch chi ddim jyst disgwyl i bobol ddod drwy'r drws.

"Dwi'n bwriadu trefnu nifer o ddigwyddiadau yma i gael pobl i mewn a heno hogyn o'r Bala, Owain Llŷr, sef DJ Bustach fydd yn diddanu pan fydd y dafarn yn ail agor.

"Mi ddaru ni feddwl yn hir cyn penderfynu mynd amdani ond mi rydem ni'n edrych ymlaen yn fawr rŵan'.

Ychwanegodd y cynghorydd sir lleol Dilwyn Morgan, "Mae 'na ryw 27 o dafarndai yn cau bob wythnos medde nhw felly mae'n braf iawn gweld Cymry lleol yn mentro ac mae'r adeilad mewn safle amlwg ar stryd fawr Y Bala a mae'n bwysig ei weld o wedi ei adnewyddu ac yn ogored eto. Dwi'n dymuno'r gore iddyn nhw".