Dau yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad yng Ngwynedd

A496 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A496 rhwng Blaenau Ffestiniog a Maentwrog

Mae dau berson yn yr ysbyty - un mewn cyflwr difrifol - yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yng Ngwynedd.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Volskwagen Golf a Saab ar yr A496 rhwng Blaenau Ffestiniog a Maentwrog am tua 17:30 ddydd Mawrth.

Mae'r dyn oedd yn gyrru'r Golf wedi cael ei gludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol.

Cafodd ddynes oedd yn y gwrthdrawiad ei chymryd i Ysbyty Gwynedd Bangor gydag anafiadau llai difrifol.

Roedd ffordd yn parhau ynghau fore Mercher am fod tanwydd wedi gollwng ac am fod angen cynnal gwaith adfer yn dilyn y gwrthdrawiad, ond mae bellach wedi ailagor.