Brian Flynn yn ailymuno ag Abertawe fel sgowt

brian flynn Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Brian Flynn yn reolwr dros dro ar dîm Cymru am ddwy gêm yn 2010

Mae cyn-reolwr Abertawe, Brian Flynn wedi ailymuno â'r clwb fel sgowt.

Flynn oedd y rheolwr a gadwodd yr Elyrch yn y Gynghrair Bêl-droed ar ddiwrnod olaf y tymor yn 2003, ac yntau eisoes yn ffefryn gyda'r cefnogwyr o'i ddyddiau fel chwaraewr.

Ar ôl hynny, fe dreuliodd wyth mlynedd yn hyfforddwr gyda thimau ieuenctid Cymru, gan helpu i fagu talentau fel Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen a Wayne Hennessey.

"Dw i'n gobeithio gwneud gwahaniaeth nawr wrth gynorthwyo'r clwb i ddod o hyd i chwaraewyr allai ddod mewn a gwneud argraff yn yr Uwch Gynghrair," meddai Flynn wrth drafod ei rôl newydd.