Plymouth 0-0 Casnewydd

Plymouth Casnewydd Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Casnewydd wedi colli o 3 i 1 yn erbyn Plymouth ym mis Hydref

Llwyddodd Casnewydd i sicrhau gêm ail-chwarae yn erbyn Plymouth yn ail rownd Cwpan FA Lloegr, a hynny er iddyn nhw fod i lawr i ddeg dyn am y rhan fwyaf o'r gêm.

Cafodd Sean Rigg ei anfon o'r maes am ei dacl ar Jake Jervis wedi 23 munud.

Fe ddylai Connor Smith fod wedi sgorio i'r tîm cartref, ond llwyddodd Joe Day i'w harbed.