Cyhuddo dau o geisio llofruddio dyn yn Sir Caerffili

Mill Court, Hafodyrynys Image copyright Google
Image caption Digwyddodd yr ymosodiad honedig ar y stryd yn stad Mill Court

Fe wnaeth dau ddyn ymddangos o flaen ynadon Casnewydd fore Gwener ar gyhuddiad o geisio llofruddio dyn yn Hafodyrynys, Sir Caerffili.

Cafodd dyn 35 oed o Risga a dyn 32 oed o Hafodyrynys eu harestio ar ôl y digwyddiad.

Fe gafodd dyn 47 oed o Bont-y-pŵl ei drywanu yn y digwyddiad ar y stryd ym Mill Court tua 03:45 fore Mawrth.

Mae o mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae'r ddau ddyn sydd wedi eu cyhuddo wedi eu cadw yn y ddalfa ac fe fydd gwrandawiad pellach ar 27 Ionawr yn Llys y Goron Casnewydd.