Paul Clement yn ffefryn i reoli clwb Abertawe

PC
Image caption Mae Paul Clement yn gyn reolwr ar Derby County

Paul Clement, rheolwr cynorthwyol Bayern Munich yw'r prif ymgeisydd i gael ei ddewis fel rheolwr nesaf clwb pêl-droed Abertawe, ond mae cyn reolwr Birmingham City, Gary Rowett hefyd dan ystyriaeth.

Ryan Giggs oedd ar frig rhestr y clwb yn dilyn ymadawiad Bob Bradley ddydd Mawrth, ond nid yw bellach yn cael ei ystyried fel dewis i'r Elyrch.

Nid yw rheolwr Cymru Chris Coleman bellach dan ystyriaeth chwaith.

Cafodd Clement gyfweliad am y swydd ym mis Hydref cyn i Bradley afael yn yr awennau yn dilyn ymadawiad y prif hyfforddwr Francesco Guidolin.

Mae Clement, sydd yn gyn reolwr ar Derby County cyn iddo gael ei ddiswyddo gan y clwb hwnnw ym mis Chwefror, wedi siarad gyda'r rhai sydd yn rheoli'r Elyrch, wedi iddo greu argraff dda yn ystod yr Hydref.

Nid yw Rowett wedi cael ei benodi i glwb newydd ar ôl iddo gael ei ddiswyddo gan Birmingham City yn gynharach ym mis Rhagfyr.

Mae'r Elyrch yn gobeithio penodi olynydd i Bob Bradley cyn i'r clwb deithio i Crystal Palace ar 3 Ionawr.

Image caption Alan Curtis yw rheolwr dros dro yr Elyrch

Mae Alan Curtis, sydd yn rheoli Abertawe dros dro yn dilyn ymadawiad Bradley, yn credu y dylai'r rheolwr newydd ddod o Brydain a bod ganddo brofiad o reoli yn yr Uwch Gynghrair.

"Rhaid iddo fo fod y dyn cywir. Yn ddelfrydol fe fydden nhw'n dod o Brydain ac yn adnabod yr Uwch Gynghrair," meddai Curtis.

"Rhaid [i'r perchnogion] fod yn fodlon ei fod yn ateb pob angen er mwyn ein cynorthwyo i'n cael allan o'r trafferthion yr ydym ynddyn nhw."

Dywedodd Curtis ei fod wedi siarad gyda chadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, ond nid yw'n gwybod am faint o amser y bydd yn parhau wrth y llyw cyn i reolwr newydd gael ei benodi.

"Beth mae'r clwb ei angen ydi nid newid cyfeiriad. Mae'r ffordd yr ydym yn rhedeg y clwb yn ein gweddu ni.

"Rhaid i rywun ddod i mewn gyda'n athroniaeth ni gyda chydig bach o brofiad a falle edrych arno gyda llygaid ffres. Dyna'n union sydd ei angen."