Caerdydd 1-2 Fulham

Ryan Sessegnon Image copyright Rex Features
Image caption Ryan Sessegnon ddaeth a Fulham yn gyfartal

Mae Caerdydd allan o Gwpan FA Lloegr ar ôl colli 2-1 i Fulham yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Caerdydd aeth ar y blaen ar ôl i gic rydd Anthony Pilkington daro yn erbyn un o amddiffynwyr yr ymwelwyr ar ei ffordd i'r gôl.

Daeth Fulham yn gyfartal gydag ymdrech bwerus Stefan Johansen.

Yna cyn yr egwyl Ryan Sessegnon, 16 oed, oedd y cyntaf i ymateb ar ôl i ergyd ar ôl i ergyd Tom Cairney daro'r bar.

O flaen torf o ddim ond 5,199, fe wnaeth yr ymwelwyr wastraffu sawl cyfle yn yr ail hanner i ymestyn eu mantais.