Glynllifon: Ddoe a heddiw

Glynllifon Image copyright Iwan Williams

Beth yw'r cysylltiad rhwng un o deuluoedd cyfoethocaf Cymru, myfyrwyr amaethyddol ac ystlumod?

Dros y canrifoedd mae Plas Glynllifon ger Caernarfon wedi bod yn gartref iddyn nhw i gyd yn eu tro.

Erbyn heddiw mae'r ffensus metal sydd wedi eu gweld o gwmpas y safle yn ddiweddar yn awgrymu bod pennod newydd ar fin dechrau i'r plasty hynafol.

Ond beth am orffennol y safle? Sut daeth y plasty mawr sy'n edrych fel rhan o set Downton Abbey i gael ei godi yng nghefn gwlad Cymru?

Image caption Cyflwynodd Laurence Llewelyn-Bowen bennod o Hidden Houses of Wales o Lynllifon yn 2010 gyda'r perchnogion ar y pryd, Tara a Pravin Jadeja o Swydd Caer

Cartref teuluol yr Arglwydd Newborough ydy'r plasty 102 o stafelloedd ac mae o leiaf tri tŷ arall yn dyddio nôl i'r 16eg ganrif wedi bod ar y safle, yn ôl yr hanesydd J Dilwyn Williams.

"Yn niwedd yr 1830au a dechrau'r 1840au yr adeiladwyd prif ran y plasty presennol yng Nglynllifon ar gyfer y trydydd Arglwydd Newborough ar ôl i dân ddifrodi'r plasty blaenorol ym mis Tachwedd 1836," meddai Mr Williams.

"Yng ngherdd Lewys Daron i Robert ap Maredudd o Lynllifon, a fu farw yn 1509, cyfeiria'r bardd at ei gartref diwylliedig."

Un o dirfeddianwyr mawr yr ardal oedd Robert ap Maredudd. Roedd ei daid yn warchodwr tref a chastell Caernarfon ar ran brenin Lloegr yn amser gwrthryfel Owain Glyn Dŵr ac un o'i gyndeidiau cyn hynny wedi cael tir gan y brenin Edward III am wasanaeth milwrol yn Ffrainc.

Cafodd y plasty ei enw ar ôl yr afon Llifon sy'n llifo drwy erddi'r safle.

O ble daeth 'Wynnborn'?

Felly sut aeth teulu Robert ap Maredudd yn Arglwyddi Newborough a phwy roddodd y Wynn yn yr enw 'Wynnborn Mansion' a achosodd ffrae wedi i un darpar brynwr geisio defnyddio'r enw am y stad?

"Yng nghanol yr 16eg ganrif cafodd y drefn Seisnig o gael cyfenw ei mabwysiadu, gan ddilyn trefn a ddaeth yn gyffredin yng Ngwynedd o ddefnyddio enw'r cartref," esbonia J Dilwyn Williams.

"Talfyrrwyd yr enw i Glynne ac mae cerdd gan Richard Phylip yn canmol y tŷ newydd a godwyd tua 1618 gan Syr William Glynne.

"Daeth y cyfenw Glynne i ben yng Nglynllifon yn nechrau'r 18fed ganrif yn dilyn priodas Frances Glynne â Thomas Wynn o Foduan, stad sylweddol yn Llŷn."

Image copyright Hawlfraint y Goron: CBHC
Image caption Mae nifer fawr o adeiladau yn gysylltiedig efo'r plasty - stablau, gweithdai, storfa rew, melin a thai

Cafodd y Thomas Wynn hwnnw ei wneud yn farwnig gan y brenin George II am "nifer o segurswyddi proffidiol" meddai J Dilwyn Williams a chododd ei fab, John Wynn, blasty newydd yng Nglynllifon - "A moderate sized brick mansion having a colonnaded vestibule for its principal entrance," oedd y disgrifiad.

Ei ŵyr, Thomas Wynn arall, oedd yr Arglwydd Newborough cyntaf. Roedd yn aelod seneddol dros Gaernarfon, St Ives a Biwmares yn ei dro ac wedi helpu brenin Lloegr

"Ef fu'n gyfrifol am godi Caer Williamsburg ar dir y plas yn 1761 a Chaer Belan ar drwyn Morfa Dinlle yn 1775 yn ystod y cyfnod pan oedd ofn ymosodiad o Ffrainc. Ei wobr am hynny oedd cael ei greu yn Arglwydd Newborough yn 1776," meddai J Dilwyn Williams.

Adeiladodd y teulu eu cyfoeth drwy rentu tir a thai, y diwydiant llechi yn Nyffryn Nantlle, Dyffryn Conwy, Blaenau Ffestiniog a Chorwen a'u swyddi cyhoeddus.

Brenin Ffrainc

Ail wraig yr Arglwydd Newborough cyntaf oedd Maria Stella Petronilla, cantores o'r Eidal oedd yn ei harddegau cynnar pan briododd hi Thomas Wynn AS a dod i Lynllifon am y tro cyntaf.

Cafodd ei magu yn ferch i gwnstabl tref Modigliana yn yr Eidal ond roedd Maria Stella yn honni ei bod mewn gwirionedd yn ferch i Ddug a Duges Orléans o deulu brenhinol Ffrainc a'i bod wedi ei chyfnewid pan yn fabi gyda bachgen bach a ddaeth yn ddiweddarach yn frenin Louis Philippe I.

Image copyright Hawlfraint y Goron: CBHC
Image caption Y fynedfa rwysgfawr yn y 1950au

Tŷ haf i bob pwrpas oedd Glynllifon erbyn ei chyfnod hi yn niwedd y 18fed ganrif, meddai J Dilwyn Williams, ac achlysurol oedd ymweliadau'r teulu ag yno gan fod ganddyn nhw dŷ yn Llundain hefyd.

"Pan ddaeth Thomas John, yr ail Arglwydd Newborough, i'w oed yn 1823 dechreuodd wario ar blasty Glynllifon ar ôl cyfnod o ddirywio a chreu'r parc gan adeiladu wal o'i amgylch," meddai Mr Williams.

Bu farw Thomas John yn 30 oed yn 1832 a cafodd y stad a'r teitl ei etifeddu gan ei frawd Spencer Bulkeley Wynn, y trydydd Arglwydd Newborough.

Diwedd cyfnod

Wedi i dân difrifol ddinistrio'r tŷ yn 1836 cafodd y plasty crand welwn ni yno heddiw ei gynllunio gan Edward Haycock o'r Amwythig.

Mab ieuengaf y trydydd Arglwydd Newborough, yr Anrh. Frederick Wynn etifeddodd diroedd Glynllifon a Boduan oddi wrth Specer Bulkeley Wynn yn 1888 ac adeiladu estyniad ar ochr chwith y plas yn 1890.

Meddai J. Dilwyn Williams: "Wedi iddo farw yn 1932 cafodd y stad ei rhannu rhwng ei ddau nai. Aeth Glynllifon i'r pumed Arglwydd Newborough a Boduan i gefnder hwnnw, Y Cyrnol Robert Wynn, Rhug, Corwen.

Image copyright Hawlfraint y Goron: CBHC
Image caption Cafodd y plasty ei adael fel yr oedd pan ddaeth yn goleg amaethyddol yn 1952

"Yn sgil trethi etifeddiaeth penderfynodd y pumed Arglwydd Newborough werthu Glynllifon yn 1949 i David Tudor, masnachwr coed o Drawsfynydd. Cafodd hwnnw ei orfodi maes o law i werthu'r plas a'r fferm i Gyngor Sir Gaernarfon a cafodd y Coleg Amaethyddol ei symud o Fadryn yn Llŷn yno yn 1952."

Erbyn heddiw Coleg Meirion Dwyfor sydd berchen y gerddi muriog a'r fferm yng Nglynllifon ond cafodd y plas ei roi ar werth yn 1998.

Ar ôl i gwpl o Sir Caer dreulio 10 mlynedd a gwario miliynau yn ailddatblygu'r plasty fel gwesty aeth i ddwylo'r derbynwyr yn 2013.

Roedd ffrae wedi i ddatblygwr arall ddangos diddordeb yn y fenter ond penderfynodd beidio prynu'r lle.

Ond mae perchennog newydd, dienw, wedi prynu'r plasty ers Ebrill 2016 a'r gobaith ydy y bydd y cynlluniau newydd ar gyfer yr hen adeilad yn cael eu datgelu maes o law.

Mae safle'n warchodfa ystlumod a mae tua 6% o boblogaeth ystlum pedol lleiaf y DU wedi cynefino yma.

Ond tybed pwy a beth fydd yn cadw cwmni i'r creaduriaid swil ar y stad hanesyddol yn y blynyddoedd sydd i ddod?

Gyda diolch i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru am hen luniau o'r tŷ.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.