Cymro'n hawlio record byd hwylio newydd

Record Image copyright Alex Thomson

Mae'r hwyliwr o Gymru Alex Thomson yn hawlio record byd newydd wedi iddo gwtogi mantais Armel Le Cleac'h yn ras y Vendee Globe.

Le Cleac'h sydd ar y blaen ar hyn o bryd ond mae Thomson wedi cwtogi'r fantais i 73 o filltiroedd môr.

Dywed y Cymro a'i dîm ei fod wedi gosod record byd am fod yr hwyliwr unigol cyntaf i hwylio pellter o 536.81 milltir mewn 24 awr.

Mae arweinwyr y ras wedi mynd heibio Ynysoedd yr Azores gyda llai na 1,300 milltir yn weddill.

Dywedodd llefarydd o dîm Thomson: "Mae angen cadarnhau'r record newydd yma gan Gyngor Record Hwylio'r Byd".

Image copyright Mark Lloyd

Fe hwyliodd y Cymro'r pellter dros 24 awr rhwng 06:00 GMT ddydd Sul a'r un amser ddydd Llun.

Ar hyn o bryd y Ffrancwr Francois Gabart sydd yn dal y record, gafodd ei gosod yn ystod cyfres yr un ras yn 2012-13.

Mae disgwyl i Le Cleac'h a Thomson gwblhau'r ras ddydd Iau yn Sable D'Olonne, Ffrainc.

Dyma'r pedwerydd tro i Thomson gymryd rhan yn ras y Vendee Globe, ac fe fyddai'r Prydeiniwr cyntaf i'w hennill petai'n llwyddo i oddiweddyd Le Cleac'h.

Roedd Thomson ar y blaen ddwywaith yn ystod y ras ac mae wedi torri dwy record y Vendee Globe cyn i Le Cleac'h fynd ar y blaen ym mis Rhagfyr.

Roedd Thomson 1000 o filltiroedd tu ôl i Le Cleac'h yn ystod y Nadolig wedi i'w gwch gael ei difrodi, ond mae wedi cwtogi'r fantais yn sylweddol ers hynny.