Llofruddiaeth Casnewydd: Cyhuddo pedwar

Blodau Image copyright Heddlu Gwent

Mae pedwar dyn wedi cael eu cyhuddo o lofruddio dyn 41 oed yng Nghasnewydd.

Roedd Jan Jedrzejewski yn byw yn yr ardal ac fe gafodd ei ddarganfod yn anymwybodol ar Heol Keene yn y ddinas am tua 23:00 ar 12 Ionawr.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw yn ddiweddarach.

Dywedodd Heddlu Gwent bod un llanc 17 oed, dau ddyn 18 ac un 43, oll wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth.

Mi fydd y pedwar yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Casnewydd fore Mawrth.