Atal Cymdeithas yr Iaith rhag ymddangos gerbron pwyllgor

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Dywedodd Bethan Jenkins bod yn rhaid i Gymdeithas yr Iaith barchu "mandad democrataidd" UKIP

Mae mudiad iaith wedi dweud iddyn nhw gael eu hatal rhag ymddangos gerbron pwyllgor Cynulliad i roi tystiolaeth am eu bod wedi penderfynu peidio ag ateb cwestiwn gan AC o blaid UKIP.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod wedi eu gwahodd i roi tystiolaeth ar Safonau'r Gymraeg i bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Cynulliad ddydd Mawrth.

Ond ar ôl rhoi gwybod na fydden nhw'n ymateb i gwestiynau gan aelod UKIP y pwyllgor, Neil Hamilton, cafodd y gwahoddiad ei dynnu yn ôl.

Dywedodd Bethan Jenkins, cadeirydd y pwyllgor, bod y penderfyniad wedi'i wneud am mai'r "pwyllgor ac nid tystion ddylai benderfynu pwy ddylai ofyn cwestiynau".

Bydd y pwyllgor yn ystyried tystiolaeth ysgrifenedig y mudiad yn lle hynny.

'Agweddau rhagfarnllyd'

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith maen nhw eisoes wedi gwneud penderfyniad fel mudiad i beidio â chydweithio ag UKIP oherwydd eu "hagweddau rhagfarnllyd yn erbyn nifer o grwpiau yn ein cymdeithas".

Ychwanegodd eu cadeirydd Heledd Gwyndaf na fyddai'r mudiad yn "eu trin fel unrhyw blaid arall", gan annog sefydliadau eraill i wneud yr un peth.

"Mae'r penderfyniad annemocrataidd hwn ar ran y Cynulliad Cenedlaethol yn hynod siomedig ac yn adlewyrchiad trychinebus o gyflwr ein hoes," meddai.

"Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bodoli i hwyluso trafodaeth agored a theg. Ond nid yn unig bod aelodau'r Pwyllgor am gofleidio rhagfarn UKIP â dwylo agored ond maent am atal llwyfan i ni, sydd o blaid hawliau i'r Gymraeg ac i leiafrifoedd eraill."

Image copyright Rhys Llwyd
Image caption Dywedodd Heledd Gwyndaf bod UKIP wedi hybu a goddef agweddau rhagfarnllyd yn erbyn pobl LGBT, lleiafrifoedd ethnig, mewnfudwyr, pobl â HIV, a'r Gymraeg

Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad nad "lle tystion yw dweud wrth un o bwyllgorau'r Cynulliad pwy sy'n cael gofyn cwestiynau", ac mai'r pwyllgorau eu hunain oedd yn penderfynu pwy oedd yn cael eu gwahodd i roi tystiolaeth.

Ychwanegodd Bethan Jenkins AC ei bod wedi trafod y mater ag aelodau eraill y pwyllgor a'u bod wedi dod i farn "unfrydol".

"Fe wnaethon ni ysgrifennu nôl at Cymdeithas yn dweud y bydden ni'n ystyried eu tystiolaeth ysgrifenedig yn lle hynny," meddai.

"Mae galw cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig - dull sydd wedi ennill ei blwyf o gyflwyno barn i unrhyw ymchwiliad - yn 'annemocrataidd' yn beth od a dweud y lleiaf."

'Tyfwch lan'

Dywedodd ei bod hi, fel aelod o Blaid Cymru, yn parhau i frwydro yn erbyn gwleidyddiaeth UKIP ond bod "pobl Cymru yn y cyfamser wedi rhoi mandad democrataidd i UKIP fod yma ac mae'n rhaid i ni barchu dymuniadau'r etholwyr".

Wrth ymateb i sylwadau Cymdeithas yr Iaith, dywedodd Neil Hamilton: "Dydyn nhw ddim yn gwneud unrhyw ffafrau â'r iaith Gymraeg wrth ymddwyn mewn modd mor anwybodus a chul.

"Mae holl Aelodau Cynulliad yn cael eu hethol fel cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru, a dyw'r Cynulliad ddim yn gallu cael ei llywio gan eithafwyr.

"Yn bersonol dwi'n cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n wlad ddwyieithog a dwi'n gobeithio y bydd Cymdeithas yr Iaith yn tyfu lan yn fuan."