Y Bencampwriaeth: Brighton 1-0 Caerdydd

Tomer Hemed Image copyright Getty Images

Mae Brighton wedi dychwelyd i dop y Bencampwriaeth, gyda gôl Tomer Hemed yn ddigon i drechu Caerdydd.

Roedd yr Adar Gleision wedi bygwth yn yr hanner cyntaf, gyda'r golwr David Stockdale yn rhwystro Kenneth Zohore.

Y tîm cartref oedd orau yn yr ail hanner, ond bu'n rhaid iddyn nhw ddisgwyl nes y 75ain munud cyn i Hemed ganfod y rhwyd.

Roedd y gêm wedi cael ei aildrefnu ar ôl i'r un wreiddiol gael ei gohirio oherwydd niwl.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn aros yn 16eg yn y tabl, gyda Brighton ddau bwynt o flaen Newcastle.