Gofal llygaid yn 'niweidio cleifion' yng Nghymru

prawf llygaid
Image caption Mae'r adroddiad yn cynnwys 22 o argymhellion i wella'r gwasanaeth

Mae cleifion yn cael niwed oherwydd problemau sylweddol yng ngwasanaethau gofal llygaid y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd.

Mae'r ddogfen gan Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru hefyd yn dweud nad oes digon o lefydd yn y gwasanaethau llygaid i gyrraedd y galw yn ysbytai Cymru a bod y gwasanaethau yn "fregus".

Yn ôl yr adroddiad, mae hyn yn arwain at gleifion yn gorfod disgwyl yn hirach am driniaeth allai arwain at "niwed gellid ei osgoi i gleifion".

Mae adroddiad yr arolygaeth yn edrych yn benodol ar bryderon am y gofal i gleifion gyda'r cyflwr Dirywiad Macwlaidd Gwlyb, sy'n gyfrifol am y nifer fwyaf o achosion o bobl yn mynd yn ddall yng Nghymru.

Ond mae'n sôn hefyd am fethiannau tebyg wrth drin anhwylderau eraill ar y llygaid.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod gan y wlad "enw da fel arweinydd" ym maes gofal llygaid, gan gydnabod bod "angen gwneud mwy".

Oedi

Ers blynyddoedd mae elusennau gofal llygaid fel RNIB Cymru wedi mynegi pryderon bod rhai cleifion yn colli'u golwg yn ddiangen oherwydd oedi wrth gael triniaeth.

Maen nhw'n sôn am y rhwystredigaeth bod y problemau yma yn dal heb eu datrys er gwaethaf sawl cynllun.

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon Llygaid yn argymell bod triniaeth ar gyfer cyflwr fel Dirywiad Macwlaidd Gwlyb yn dechrau o fewn pythefnos i gleifion gael eu cyfeirio at arbenigwr.

Os nad yw hynny yn digwydd, mae yna risg y gallai'r claf golli ei olwg heb angen.

Amlinellu problemau

Mae'r adolygiad yn amlinellu problemau trwy gydol siwrne'r claf.

  • Cyfeirio claf - Er bod cleifion gyda chyflwr Dirywiad Macwlaidd Gwlyb yn cael eu gweld yn gyflym yn yr ysbyty, mae 'na achlysuron ble mae cleifion wedi diodde' niwed yn sgil oedi yn ddiweddarach.
  • Ansawdd y wybodaeth wrth gyfeirio claf - Er gwaethaf rhai gwelliannau roedd hyn yn broblem ar draws Cymru, gyda diffyg manylion wrth gyfeirio claf yn golygu ei bod hi'n fwy anodd blaenoriaethu cleifion yn yr ysbyty.
  • Cyfathrebu - Mae'n ymddangos bod 'na ddiffyg cyfathrebu rhwng ysbytai wedi cyfeirio claf, oedd yn golygu bod optometryddion yn ddibynnol ar gleifion yn deall eu diagnosis.
  • Amser aros am driniaethau -Roedd gweld claf o fewn y targed o bythefnos yn heriol yn ôl byrddau iechyd. Roedd perfformiad yn anghyson ac yn newid drwy gydol y flwyddyn.
  • Oedi i gleifion - Mae gan y rhan fwyaf o'r byrddau iechyd restr o gleifion sydd angen cael eu gweld, sy'n arwain at adegau pan fyddai 'na oedi i gleifion.
  • Targedau - Mae targed dwy wythnos o gymorth ar gyfer y driniaeth gyntaf - ond dim targedau pellach a monitro o ran gofal pellach.
  • Adrodd ar ddigwyddiadau difrifol -Diffyg ymwybyddiaeth ynglŷn â'r angen i adrodd am ddigwyddiad difrifol i Lywodraeth Cymru ble mae claf wedi diodde niwed o ganlyniad i aros yn rhy hir.
  • Amgylchedd - Pryderon am ddiffyg lle a chyfleusterau ar draws Cymru mewn clinigau llygaid
  • Rôl optometryddion - Optometryddion yn teimlo nad oedd eu harbenigedd yn cael ei ddefnyddio'n llawn, ac am gymryd rhan mwy llawn wrth wneud penderfyniadau yn ogystal â darparu gofal mewn apwyntiadau wedi triniaeth.
  • Cleifion sy'n cael eu rhyddhau - Materion yn ymwneud â gwybodaeth a meini prawf, gan gynnwys pryderon gan staff o fewn byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro ac Abertawe Bro Morgannwg bod cyrraedd targedau ar amseroedd trin cleifion wedi eu blaenoriaethu ar draul yr angen clinigol.

Triniaeth 'yn ôl angen meddygol'

Un o'r problemau y mae'r adroddiad yn ei godi yw nad ydy cleifion sydd â'r cyflyrau mwyaf difrifol yn cael blaenoriaeth pob tro.

"Fe glywon ni am achosion o fewn Caerdydd a'r Fro pryd y cafodd cleifion risg isel eu blaenoriaethu am apwyntiadau o flaen cleifion oedd â risg uwch o gael niwed", medd yr adroddiad.

"Roedd y penderfyniadau yma wedi eu cymryd gan reolwyr oedd yn mynd yn groes i'r farn glinigol er mwyn atal cleifion risg isel rhag methu'r targed o roi triniaeth.

"Mae angen i fyrddau iechyd sicrhau, ble mae hi'n bosibl, bod cleifion yn cael eu trin yn ôl angen meddygol."

Mae'r Arolygaeth Gofal Iechyd yn dweud bod breuder y gwasanaethau ar gyfer Dirywiad Macwlar Gwlyb yn risg enfawr.

Yn ôl y prif weithredwr, Dr Kate Chamberlain: "Er bod 'na beth arloesi wedi bod er mwyn cynyddu nifer y cleifion sy'n cael eu gweld, mae'r gwelliant wedi bod yn anghyson ar draws Cymru. "

Image caption Mae Prif Weithredwr RNIB Cymru yn poeni am gyflyrau fel glawcoma hefyd

Dywedodd Prif Weithredwr RNIB Cymru Ceri Jackson ei bod hi'n annerbyniol bod pobl yn dal i golli eu golwg heb fod angen.

"Ry'n ni'n cydnabod ac yn canmol ymroddiad a gwaith caled timoedd ar draws Cymru, ond y ffaith yw bod pobl yn dal i golli eu golwg oherwydd oedi cyn cael apwyntiad.

"Mae hi'n angenrheidiol bod mwy o gleifion yn cael eu trin o fewn y gwasanaeth llygaid er mwyn cwrdd â'r galw nawr a'r galw cynyddol i ddod."

Fe ddywedodd Ceri Jackson hefyd ei bod yn poeni am gyflyrau eraill fel glawcoma yn ogystal.

'Mwy i wneud'

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Mae gennym enw da fel arweinydd yn y datblygiad a'r ddarpariaeth o ofal iechyd y llygaid o safon uchel, ac rydym yn falch iawn o hyn.

"Mae ein cynllun Darparu Gofal Iechyd y Llygaid - credir mai dyma'r cyntaf o'i fath yn y byd - yn nodi nifer o gamau yr ydym yn eu cymryd o wella iechyd llygaid holl blant ac oedolion Cymru, yn enwedig y rhai sy'n fwyaf agored i broblemau iechyd y llygaid.

"Ers i ni gyhoeddi'r cynllun, mae llawer o waith wedi ei wneud i symud mwy o gleifion o ofal eilaidd i ofal cyntaf, ond rydym yn cytuno bod angen gwneud mwy.

"Rydym yn croesawu adroddiad heddiw, ac yn annog pawb i ddefnyddio'r canlyniadau i wella gwasanaethau gofal llygaid i bobl ar draws Cymru."