Neil Taylor yn ymuno â Aston Villa

taylor Image copyright Getty Images

Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau y bydd chwaraewr rhyngwladol Cymru, Neil Taylor yn gadael y Liberty yn gyfnewid am ymosodwr Aston Villa, Jordan Ayew.

Mae prif hyfforddwr Yr Elyrch, Paul Clement yn disgwyl y bydd y fargen yn cael ei chwblhau ddydd Mawrth, gydag Abertawe yn talu hyd at £5m am y chwaraewr rhyngwladol o Ghana.

Mae Ayew, sy'n 25 oed, yn frawd i Andre Ayew, a chwaraeodd dros Abertawe'r tymor diwethaf cyn ymuno â West Ham am ffi o £20.5m.

Mae Jordan Ayew ar hyn o bryd yn chwarae gyda Ghana yng Nghwpan Cenhedloedd Affrica.

Mae Taylor, 27 oed, wedi gwneud dros 150 o ymddangosiadau i'r clwb ers iddo gyrraedd o Wrecsam, ac roedd yn rhan o'r garfan enillodd ddyrchiafiad i'r Uwchgynghrair.

Roedd hefyd wrth gwrs yn ffigwr allweddol wrth i Gymru gyrraedd rownd gynderfynol Euro 2016, gan sgorio yn erbyn Rwsia yn y fuddugoliaeth o 3-0.

Yn sgil ei ymadawiad nid oes yr un chwaraewr rhyngwladol o Gymru yng ngharfan Abertawe.