Cofi o Kent

Kirsty Tivers

Pan symudodd Kirsty Tivers o dde Lloegr i Gaernarfon chwe blynedd yn ôl roedd rhaid iddi frwydro i gael rhai pobl leol i siarad Cymraeg efo hi meddai, gan gynnwys rhai aelodau o'i theulu ei hun oedd yn Gymry Cymraeg.

Fe fydd gwylwyr Y Salon ar S4C wedi synnu o glywed acen de Lloegr Kirsty wrth iddi droi o Gymraeg i Saesneg i egluro mai un o Chatham yng Nghaint ydi hi go iawn.

Mae hi'n teimlo'n gartrefol iawn yng Nghaernarfon ac yn defnyddio Cymraeg yn ei gwaith bob dydd erbyn hyn yn un o siopau barbwr prysuraf y dre.

"Oni'n dod yma ar gwyliau ac oni bob tro'n lyfio fo. Oedd petha'n newid yn Kent, oedd na ddim lot o waith so nes i deseidio symud i fama achos oni'n lyfio fo.

"Mae Nain yn dod o Nebo ond oedd hi di byw yn Kent am flynyddoedd. Mae ochr Taid yn Saesneg i gyd, ma ochr Dad yn Saesneg i gyd - dydi Mam a Dad ddim yn siarad Cymraeg o gwbl.

"Mae pobl yn deud mod i'n swnio fatha Only Way is Essex. Nadw dwi ddim!"

'Stopia siarad Cymraeg'

Fe fu Kirsty yn byw yn yr ardal am gyfnod byr pan oedd hi'n blentyn gan fynd i Ysgol Baladeulyn, Dyffryn Nantlle, am ychydig flynyddoedd.

Ond symudodd y teulu nôl i Gaint ac anghofiodd yr iaith heblaw am ambell 'nos da' a 'sut wyt ti'.

Pan symudodd nôl roedd hi'n benderfynol o'i siarad eto ac mae wedi gwneud hynny ar ei liwt ei hun heb unrhyw wersi ffurfiol.

"Pan nes i symud yma oni'n gorfod fforsio fy hun i ddysgu fo eto," meddai.

"Oedd pawb yn cymryd y mic. Ond os ma rywun yn cymryd y mic ma'n neud i chdi isho neud o mwy yndi?

Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais
Kirsty ar raglen Y Salon gan S4C

"So bob yn ail air o'n i'n gofyn 'sut ti'n deud hyn?' a 'sut ti'n deud hynna?' ac yn sgwennu bob dim i lawr ar y ffôn."

Roedd llawer o bobl yn ei hannog, ond nid pawb: "Oedd rhai o nheulu Cymraeg i'n deud 'Stopia trio siarad Cymraeg, ti'n swnio'n sili, jyst siarad Saesneg, 's'na neb yn meindio.'

"Oeddan nhw'n rybish, oeddan nhw'n deud wrtha' i am jyst stopio siarad Cymraeg ac os oedd o'n rwbath pwysig, siarad Saesneg. Ond wedyn ti byth yn mynd i ddysgu nagwyt?"

Roedd un o'i chwsmeriaid yn y siop hefyd o Gaint ac mi fyddai o a Kirsty bob amser yn siarad Cymraeg efo'i gilydd er mawr syndod i bawb arall oedd yno: "Oedd pawb yn gofyn pam ydach chi'n siarad Cymraeg efo'ch gilydd, mae'n haws ichi siarad Saesnag yndi?

"Ac o'n i'n deud 'Ydi, ond dani'n byw ar eich territory chi felly dani'n siarad eich iaith chi'.

"Dwi jyst yn lyfio'r iaith a mae'n bechod nad ydan ni ddim i gyd yn siarad o.

"Os tisho byw yn rwla, ti'n siarad yr iaith - os ti'n symud i Sbaen ti'n siarad Spanish, o ti'n symud i Italy, ti'n dysgu Italian, so pam mae'n wahanol fama?

"A dwi ddim yn dallt, os ti'n mynd o dre [Caernarfon] i rywle fel Bangor, hyd yn oed, mae pawb yn siarad Saesneg!

"Dwi ddim yn gweld y pwynt o fyw yng Nghymru os ti ddim yn siarad Cymraeg - i fi dyna ydi part of the attraction.

"Os fyswn i'n cael fy ffordd fy hun fyswn i'n cael pawb i siarad Cymraeg - pawb!"

'Taffy'

Image caption Mae Kirsty'n gweithio ynghanol bwrlwm tref Caernarfon

Mae brawd Kirsty yn byw yn Yr Alban a ddim yn deall gair o Gymraeg erbyn hyn.

Ond i Kirsty mae ochr Gymreig y teulu wedi bod yn ddylanwad mawr.

"Pan oni'n byw yn Kent oedd gen i ddim ffrindia Cymraeg so Saesneg oedd bob dim," meddai.

"Oedd pobl yn cymryd y mic allan ohona fi ac yn galw 'Taffy' arna fi pan o'n i'n tyfu i fyny. Oni'n embarassed.

"Ond wedyn yr hyna' oni'n mynd, ac yn arfer dod i fama ar wylia, oni fatha 'Ia, a be?'

"Wedyn oedd rhai ohonyn nhw'n deud wrtha fi 'Os ti'n licio nhw hynna faint pam ti ddim yn symud yn ôl yna?'

"Ac oni fel 'Iawn, 'na i!"

Dysgu er mwyn busnesu

Roedd lot o ffrindiau Kirsty nôl yng Nghaint yn meddwl ei bod yn tynnu coes wrth sôn am siarad Cymraeg a ddim yn gwybod am fodolaeth yr iaith.

"Pan nathon nhw dod yma ar wyliau a clywed fi'n siarad oeddan nhw'n shocked a fatha, oh my god.

"Mae lot ohonyn nhw di bod yn trio watsiad Y Salon ar teli a ddim yn gallu cael y subtitles so ma nhw'n gorfod watsiad yr holl beth heb ddallt gair ohono fo!

"Yr unig beth oeddan nhw'n ddallt oedd Mam yn deud 'Get out of my pub!'"

Image caption Mae pobl Caernarfon yn stopio i ddweud helo ar y stryd meddai Kirsty

Mae hi'n dal yn gorfod gofyn i gwsmeriaid beidio â siarad Saesneg efo hi ac yn cyfaddef bod gallu deall y sgyrsiau difyr a'r cyfrinachau sy'n cael eu datgelu yn y siop yn rheswm arall dros fod eisiau siarad Cymraeg.

"Dwi'n rhy fusneslyd i beidio dysgu - dwisho dallt!"

Mae hi'n teimlo bod gogledd Cymru yn lle gwell i fyw wrth i waith brinhau yng Nghaint a hithau ddim yn teimlo ei bod yn ddiogel i gerdded y stryd yno chwaith.

Mae pobl yma'n llawer mwy ffeind hefyd yn ôl Kirsty ac yn codi llaw a dweud helo ar y stryd - roedd pawb yn rhy brysur yn Chatham meddai.

"Does neb yn stopio i ddeud helo a dwi'n licio hynna - dwi'n berson chatty!"


Y Salon, S4C, Nos Wener, 08:25

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.